Yr Adnoddau – Cyflwyniad

Mae’r Porth Technolegau Iaith Genedlaethol Cymru yn gasgliad o adnoddau technolegol Cymraeg a ddatblygwyd yn yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.

Mae’r adnoddau wedi’u darparu fel ‘blociau adeiladu’, agored ac am ddim, er mwyn galluogi cymorth uwch a llawn o’r Gymraeg o fewn unrhyw cynnyrch gorffenedig digidol.

Mae’r adnoddau wedi’u hanelu at gwmnïau meddalwedd (lleol a rhyngwladol), ymchwilwyr, hacwyr, gwirfoddolwyr brwdfrydig yn ogystal  â chlybiau codio Cymraeg.

Cyfieithu

Adnoddau i chi greu a ddefnyddio systemau cyfieithu peirianyddol eich hunain.

Rhagor...

Lleferydd

Adnoddau i gynhyrchu ac/neu ymateb i leferydd dynol Cymraeg.

Rhagor….

Corpora

Casgliadau enfawr o destunau ac/neu sain Cymraeg i’w llwytho i lawr.

Rhagor…

Gwasanaethau
APIs ar-lein

Amrywiaeth o swyddogaethau technolegau iaith Cymraeg i’w gynnwys yn hwylus o fewn eich apiau, gwefannau neu meddalwedd Cymraeg a ddwyieithog.

Rhagor…

Ategion gwefannau

Ategion i’w osod o fewn eich gwefan ar gyfer cynorthywo defnyddio’r Gymraeg.

Rhagor…

Adnoddau Hawdd a Hwyl i’w Ddefnyddio

Elfen bwysig o’r Porth Technolegau Iaith yw y bydd yn cynorthwyo defnyddwyr o ran sut i ddefnyddio’r adnoddau, yn ogystal â chynnig syniadau ar wahanol gynnyrch yn cynnwys apiau, gemau, projectau i’ch Raspberry Pi ac ategion i’w plannu mewn gwefannau. Mae’r rhan helaeth o’r adnoddau cynorthywol i’w cael o fewn storfa GitHub y Porth Technolegau Iaith, lle ceir nid yn unig ddogfennaeth ond hefyd god enghreifftiol.

Mae mwy o fanylion i’w cael, ynghyd â dolenni at yr adnoddau, dogfennaeth, a syniadau defnydd, yn yr adrannau perthnasol sydd ar gael i’w cyrchu o fan hyn:

https://techiaith.cymru/elg/

https://techiaith.cymru/yr-adnoddau/github/

https://techiaith.cymru/yr-adnoddau/docker/


https://techiaith.cymru/yr-adnoddau/llawlyfr-technolegau-iaith/

https://techiaith.cymru/llyfrau/