Cryfach gyda’n gilydd: Rhannu adnoddau cyfieithu yng Nghymru

Gweithdy “Cryfach gyda’n gilydd:

Rhannu adnoddau cyfieithu yng Nghymru”

 

Pryd: 16 Gorffennaf 2021 9am – 12pm

Ble: Cynhelir y gweithdy dros Teams gan Brifysgol Bangor

 

Yn ei strategaeth ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r angen am “broffesiwn cyfieithu fodern sy’n manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ac adnoddau ieithyddol”. Mae’r dechnoleg yma yn cynnwys yn bennaf cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, sydd â’r potensial o arbed arian a chodi cynhyrchedd cyfieithwyr dynol yn sylweddol.

Eisoes bu tipyn o drafod ac arbrofi i rannu adnoddau cyfieithu er mwyn hybu technoleg cyfieithu yng Nghymru, ac eleni mae project ym Mhrifysgol Bangor yn mynd gam ymhellach. Gyda nawdd Llywodraeth Cymru, y bwriad yw sefydlu trefn hir dymor i gasglu data gan asiantaethau cyhoeddus yng Nghymru, ar ffurf cofion cyfieithu cyfochrog a thestunau perthnasol eraill, er mwyn ei ailddosbarthu a’i rannu gydag  chyfieithwyr ac asiantaethau perthnasol eraill. Bydd y data a gesglir hefyd yn cael ei ddefnyddio i greu systemau cyfieithu peirianyddol pur, a modelau iaith ar gyfer datblygu technolegau eraill megis trawsgrifio o’r llafar i’r ysgrifenedig. Erbyn Mawrth 2022 gobeithiwn gyhoeddi’r system cyfieithu peirianyddol gyntaf ar gyfer maes penodol iechyd yng Nghymru.

Bwriad y gweithdy cyntaf yw rhannu gwybodaeth am y project, a gwahodd cyrff ac asiantaethau cyhoeddus i gydweithio gyda ni drwy rannu eu cofion cyfieithu a data perthnasol arall, derbyn cofion cyrff eraill yn gyfnewid, a chyfrannu at ddatblygu cyfieithu peirianyddol parth-benodol. Bydd cyfle yn ystod y gweithdy i drafod materion fel cyfrinachedd data, materion hawlfraint a thrwyddedu, a dysgu rhagor am y dechnoleg. Bydd cyfle hefyd i drafod syniadau ac i holi cwestiynau ar y dechnoleg a’r project.

Cyflwynir y gweithdy trwy’r cyfrwng Cymraeg.

I weld agenda’r gweithdy cliciwch yma ac i gofrestru ar-lein cliciwch yma.

I weld yr Cyflwyniadau cliciwch yma