Galwad am bapurau

Gwahoddwn ymchwilwyr, gan gynnwys myfyrwyr ôl-radd, i gyflwyno papurau ar ymchwil cyfredol a diweddar ar ffurf posteri ar gyfer y gynhadledd.

Bydd sesiwn arbennig yn ystod y prynhawn ar gyfer arddangos y rhain, a byddant yn cael eu cadw i fyny ar gyfer anghynhadledd Hacio’r Iaith y diwrnod canlynol hefyd.

Derbynnir posteri Cymraeg a/neu ddwyieithog ar gyfer y gynhadledd.

Dylai’r papurau fod ar y themâu canlynol:

• Offer Prosesu Iaith Naturiol ar gyfer y Gymraeg
• Technoleg cyfieithu a’r cyfryngau newydd yng Nghymru
• Cymhorthion dadansoddi iaith a lleferydd i greu cynnyrch digidol Cymraeg
• Apiau Cymraeg a dwyieithog
• Astudiaethau o agweddau defnyddwyr tuag at dechnoleg ddigidol yng Nghymru
• Arloesedd ddigidol, yr economi a’r Gymraeg
• Unrhyw agwedd arall o dechnoleg lleferydd neu dechnoleg testun Cymraeg

Os dymunwch gynnig poster i’r gynhadledd, gyrrwch grynodeb neu ddisgrifiad o’ch papur yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, rhwng 250-300 gair i’r cymedrolwyr drwy d.prys@bangor.ac.uk erbyn dydd Gwener 2 Rhagfyr. Byddwch yn derbyn ateb erbyn dydd Llun 12 Rhagfyr.