Cynhadledd 2021

Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg

Dydd Gwener, 26 Chwefror, 2021, Ar lein ar Zoom.  9.30 y bore i 4 y prynhawn

 

Agorir y gynhadledd gan Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, gyda gair o groeso gan Yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor

 

Cadeirydd y Gynhadledd: Yr Athro Delyth Prys
Trefnydd y Gynhadledd: Stefano Ghazzali

 

Y bedwaredd yn ein cyfres ar gyfer pawb sydd â diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol, ac yn arbennig, y Gymraeg.

Oherwydd y cyfyngiadau sy’n parhau gyda Covid-19, bydd y gynhadledd eleni yn digwydd o bell. Rydym ni’n gobeithio er hynny y bydd yn gyfle da i rannu gwybodaeth, trafod a gweld arddangosiadau o feddalwedd newydd Cymraeg.

Rhaglen Y Gynhadledd

Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd ar agor yn awr

Noddir y gynhadledd gan Lywodraeth Cymru.

WelshGovtlogo