Hacio’r Iaith yn cyflwyno Hacio Bach

Hacioriaith-logoMae Hacio’r Iaith yn ddigwyddiad technoleg iaith cyfrwng Cymraeg, sydd wedi bod yn rhedeg yn flynyddol ers 2010. Eleni, does na ddim Hacio’r Iaith arferol o achos y pandemig COVID-19.

Yn lle hynny, rydyn ni’n mynd i gynnal digwyddiad bach ar-lein – rhyw fath o Hacio Bach – ar y 14 Tachwedd 2020 (9.00 – 1.00) yn defnyddio Teams. Mae’n ddigwyddiad agored y gall unrhyw un fynychu, a siarad am bwnc o’u dewis nhw. Fydd e ddim cystal â chael cwrdd wyneb yn wyneb, ond gobeithio y bydd yn dal yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Hoffai’r tîm technolegau iaith ym Mhrifysgol Bangor rai datblygiadau newydd ym maes adnabod lleferydd ac offer trin iaith gyda phawb, ond gobeithio y bydd gan bobl eraill hefyd gyfraniadau i’w gwneud ac y bydd yna gyfle i bawb gael sgwrs.

Er mwyn cofrestru ar gyfer y gynhadledd, anfonwch e-bost at s.ghazzali@bangor.ac.uk a byddwch chi’n cael eich hychwanegu at y cyfarfod Teams.

Hacio Bach

Amserlen bore Sadwrn 14 Tachwedd

Pryd Beth Pwy
9.00-9.30 Cyrraedd, paneidio a llenwi’r bwrdd gwyn Bwrdd gwyn dan ofal Stefano
9.30-10.00 Taith drwy stwff newydd Lleferydd Cymraeg ar Github a Metashare Dan ofal Dewi Bryn Jones
10.00-10.30 Taith drwy stwff newydd Offer Testun Cymraeg ar Github a Metashare Dan ofal Gruffudd Prys
10.30-11.00 Sgwrsio agored, rhagor o’r bwrdd gwyn a phaneidio Pawb
11.00-12.30 Sesiynau arddangos, pitsh 5 munud a bocs sebon (wedi’u trefnu drwy’r bwrdd gwyn) Pawb
12.30-1.00 Sesiwn drwy’n gilydd i gloi Pawb