Ategyn Cymreigio Porwyr

Ategyn yw hwn sy’n tynnu sylw ymwelwyr wefannau at y ffaith mai Saesneg (UDA) yw dewis iaith cynnwys ddiofyn dal eu porwyr. Mae’r ategyn hefyd yn eu helpu i’w newid i’r Gymraeg. Mae modd gosod yr ategyn yn hwylus ar unrhyw wefan er mwyn hysbysu a chynorthwyo’r nifer mwyaf bosib o ddefnyddwyr.

Mae gadael y dewis iaith cynnwys porwyr ar Saesneg (UDA) yn peri glanio yn ddieithriad ar dudalennau Saesneg gwefannau dwyieithog ac amlieithog.

Mae’r ategyn yn cynnwys gwybodaeth glir a syml ar sut yn union y gellir gosod y Gymraeg fel iaith cynnwys ddiofyn mewn gwahanol borwyr, a thrwy hynny, sicrhau eu bod yn glanio ar dudalennau Cymraeg eu hiaith os ydynt ar gael.

Yr ategyn yn hysbysu bod dewis iaith cynnwys y porwr yn Saesneg (UDA)

Mae ystadegau defnydd o wefannau’r Uned Technolegau Iaith, fel y Porth Termau a Cysill Ar-lein, yn dangos mai Saesneg (UDA) yw dewis iaith cynnwys ddiofyn porwr y mwyafrif helaeth o ddefnyddwyr. Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod gan fwyafrif y defnyddwyr dueddiad i aros ar yr ochr Saesneg ac i beidio clicio i ddefnyddio’r tudalennau Cymraeg. Mae dros 90% o ddefnyddwyr Cysill Ar-lein o fewn gwefan Cymorth Cymraeg Canolfan Bedwyr yn aros ar y dudalen Saesneg ac yn ei defnyddio yn yr iaith honno.

Yn hyn o beth, ac o bwys mawr ar gyfer adnabod lleferydd Cymraeg, mae’r ategyn yn harneisio grym technoleg gyfrifiadurol i gyfeirio ac annog defnyddwyr at yr iaith leiafrifol yn hytrach na gadael i’r dechnoleg atgyfnerthu grym a statws iaith fwyafrifol.

Cymreigio Firefox

 

Cymreigio Google Chrome

 

Cymreigio Microsoft Internet Explorer

 

Sut mae gosod yr ategyn?

Mae modd cynnwys yr ategyn o fewn eich gwefan drwy ychwanegu’r llinell ganlynol o fewn HTML eich gwefan :

<!-- Ategyn Cymreigio Porwyr -->
<script type="text/javascript" language="javascript" src="http://techiaith.bangor.ac.uk/cymreigio-client/cymreigioporwyr/cymreigioporwyr.nocache.js"></script>
<!----------------------------->

Dyma’r cod ffynhonnell syml ar gyfer ei ddarparu fel ategyn WordPress. Sylwer, nid yw’r ategyn yn cael ei gynnwys o fewn tudalennau Saesneg.

<!--?php &lt;br ?--> /*
Plugin Name: Cymreigio Porwyr
Description: Ategyn syml sy'n synhwyro ffurfwedd ieithyddol porwyr
Version: 1.0
Author: Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor
Author URI: http://techiaith.bangor.ac.uk
License: BSD
*/

function insert_cymreigio_gwtjs(){

$qryStr = $_SERVER['QUERY_STRING'];
parse_str($qryStr, $qryStrArray);

if ($qryStrArray['lang'] == null) {

echo "
<!-- Ategyn Cymreigio Porwyr -->
<script type='text/javascript' language='javascript' src='http://techiaith.bangor.ac.uk/cymreigio-client/cymreigioporwyr/cymreigioporwyr.nocache.js'></script>
<!-- -------------- -->
";
}
}

add_action('wp_head','insert_cymreigio_gwtjs');

?&gt;

 

Beth yw Gosodiad Iaith Cynnwys?

Mae rhai gwefannau ar gael yn ddwyieithog neu’n amlieithog sy’n golygu y gall cyfeiriad gwe e.e. http://www.bangor.ac.uk, gyfeirio at dudalen gartref sy’n Gymraeg neu’n Saesneg. Er mwyn hwyluso penderfynu ym mha iaith y dylid darparu’r cynnwys, mae porwyr yn caniatáu i chi nodi pa ieithoedd rydych yn eu defnyddio i ddarllen ar y we ac i’w rhestru yn nhrefn eich dewis. Mae porwyr wedyn yn cyfleu’r dewis iaith o fewn pob cais ar gyfer cynnwys pob cyfeiriad gwe.

Gweler https://www.rfc-editor.org/rfc/rfc9110.html#name-accept-language am wybodaeth dechnegol bellach.