Rhannu Cofion

Mae gennym ni wefan newydd https://cofion.techiaith.cymru/ sy’n rhoi cyfle i sefydliadau ac asiantaethau cyhoeddus sy’n cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg rannu eu cofion cyfieithu gyda’i gilydd. Mae’n ffordd hwylus i lwytho cofion i fyny, a thynnu cofion cyfieithu sefydliadau eraill i lawr o’r wefan, fel bod modd eu rhannu’n agored.

Os nad ydych chi’n medru rhannu eich cofion yn agored (e.e. am resymau hawlfraint neu gyfrinachedd), mae modd i chi o hyd rannu eich cofion gyda ni er mwyn datblygu modelau i wella cyfieithu peirianyddol Cymraeg.

Os hoffech chi gael rhagor o fanylion, cysylltwch gyda Stefano drwy e-bost (s.ghazzali@bangor.ac.uk).