Gweithdy Ymarferol ar y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol 18 Mehefin 2019

Cynhelir gweithdy ymarferol ar sut i wneud defnydd llawn o adnoddau’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 18 Mehefin, 2019.

Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer datblygwyr meddalwedd, hacwyr, ieithwyr cyfrifiadurol, athrawon cyfrifiadureg, gwirfoddolwyr technoleg iaith, a phawb sy’n ymddiddori mewn defnyddio adnoddau’r Porth mewn cynnyrch cyfrifiadurol Cymraeg ac amlieithog.

Byddwn yn ceisio cynnal gweithdai i ateb diddordebau penodol y rhai fydd yn bresennol. Y themâu dan sylw yw:

  • Adnoddau Adnabod lleferydd
  • Adnoddau Testun i leferydd
  • Gwasanaethau API ac ategynion (Vocab, Cysill Ar-lein, Termau, Lemateiddiwr)
  • Adnoddau Cyfieithu Peirianyddol
  • Cyfrannu i Common Voice

Bydd y gweithdai yn cael eu rhedeg gan staff yr Uned Technolegau Iaith a’u partneriaid.

Agenda

9.30 Cyrraedd & Phaned

10.00 Croeso a throsolwg

  • Y Porth Technolegau Iaith a hybu’r sector meddalwedd Cymraeg: Delyth Prys
  • Adnoddau Lleferydd a Chyfieithu: Dewi Bryn Jones
  • Gwasanaethau API ac ategion: Stefanol Ghazzali

11.15 – Paned

11.30 – 12.30 – Gweithdai cyfochrog

12.30 – 13.00 – Cinio

13.00 – 15.00 – Gweithdai cyfochrog – parhau o’r bore neu weithdai newydd

15.00 – 15.30 – Paned

15.30 – 16.00 – Trafodaeth i gloi: Sgwrsfotiaid, dadansoddwyr ystyr a’r ffordd ymlaen ar gyfer TI Cymraeg

16.00 Cau

Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd ar agor yn awr.

Noddir y gweithdy hwn gan yr ESRC drwy Gronfa Cyflymu Effaith Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.