API Tagiwr rhannau ymadrodd

Mae’r gwasanaeth API ar-lein yn caniatáu i fewnbynnu unrhyw air, brawddeg neu ddarn o destun Cymraeg a derbyn dadansoddiad manwl o bob rhan ymadrodd heb angen gosod meddalwedd arbennig. Mae’n wasanaeth hawdd i’w ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim.

Er enghraifft, os mewnbynnwch

mae hen wlad fy nhadau

i mewn i’r API, bydd y dadansoddiad canlynol yn cael ei ddychwelyd:

mae/VBF/- hen/ADJP/- wlad/NF/TM fy/PRONOUN/- nhadau/NPL/TT

Hynny yw:

mae (ffurf ferfol) hen (ansoddair rhagddodol) wlad (enw benywaidd/treiglad meddal) fy (rhagenw) nhadau (enw lluosog/treiglad trwynol)

Dyma’r unig wasanaeth o’r fath sy’n bodoli drwy gyfrwng y Gymraeg ar y we, ac sy’n tagio nodweddion penodol Cymraeg, megis treigliadau.

Gallai’r gwasanaeth fod yn ddefnyddiol mewn sawl cyd-destun:

  • Masnach: adnabod enwau personol ac/neu enwau lleoedd a darparu data marchnata gwerthfawr pellach i fusnesau sydd yn ymchwilio i agweddau cwsmeriaid ar Twitter
  • Addysg: cymhwysiad addysgiadol mewn ysgolion a chlybiau codio
  • Ymchwil: defnydd mewn projectau academaidd wrth ddadansoddi corpora mawr
  • Datblygu: adnodd ar gyfer datblygwyr meddalwedd cyfrwng Cymraeg, yn cynnwys gemau ac apiau

Am fwy o wybodaeth a chychwyn arni dilynwch y dolenni isod :

API Tagiwr Rhannau Ymadrodd

Tudalennau'r gwasanaeth API yng nghanolfan APIs Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru

Cofrestrwch ar ein canolfan APIs er mwyn derbyn allwedd API er mwyn gallu defnyddio'r gwasanaeth. Dyma gyfarwyddiadau ar sut mae derbyn allwedd API.

PorthTechnolegauIaith/postagger

 

Cydnabyddiaeth

Dylai unrhyw erthyglau neu feddalwedd a seiliwyd ar ddefnydd yr API hwn ddyfynnu:

Jones, D. B., Robertson, P., Prys, G. (2015) Gwasanaeth API Tagiwr Rhannau Ymadrodd Cymraeg [http://techiaith.cymru/api/tagiwr-rhannau-ymadrodd]