Lleisiwr

Diben y project yw creu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf.

Mae’r Uned Technolegau Iaith wedi creu llwyfan sy’n galluogi cleifion gyda chymorth therapyddion lleferydd i greu eu llais dilys eu hunain yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fel arfer bydd therapyddion lleferydd yn cyfeirio cleifion at y ddarpariaeth, gyda’r cleifion yn llofnodi ffurflen gydsynio i alluogi’r project i storio’u llais a chreu llais synthetig ar eu cyfer.

Mae’r broses wedi’i seilio ar y we, gyda chleifion yn recordio testun sydd wedi’i ddarparu iddynt ar ffurf promptiau  ar gyfer pob iaith. Maent wedyn yn medru cynhyrchu eu llais synthetig eu hun.

Er mwyn medru cyfathrebu ar lafar yn Gymraeg/Saesneg, Mae’r defnyddiwr yn teipio o fewn rhyngwyneb gwe a a’r rhyngwyneb gwe yn darllen y geiriau yn uchel gyda fersiwn synthetig o lais y defnyddiwr.

Mae dolen at wefan y project i’w chael yma.

Mae’r project hwn yn bartneriaeth rhwng y GIG ac Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Caiff ei ariannu dan Gynllun Grant Technoleg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru. Rhedodd tan Fawrth 31, 2018 fel project peilot. Ers Hydref 2020 gallwch chi greu un llais dwyieithog ar y llwyfan Lleisiwr yn hytrach na lleisiau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Fe’i diweddarwyd ymhellach yn 2021.

Ar gyfer Datblygwyr Meddalwedd mae cod y project Lleisiwr sy’n galluogi’r defnyddiwr i greu a defnyddio eu lleisiau synthetig digidol i gael isod:-

a) Mae casglu a bancio’r llais yn digwydd drwy ein fforch addasedig o Broject Common Voice Mozilla ac mae wedi’i integreiddio i dudalen WordPress. Trwydded

b) Addasiadau i MaryTTS ( Trwydded ) a lletya drwy ein Cynwyseiddiad Docker (Trwydded) sy’n galluogi creu llais a’i chwarae yn ôl.

Yn y cyfamser – os ydych chi eisiau cymryd rhan neu am wybod mwy am y project yn cysylltwch â Stefano Ghazzali (s.ghazzali@bangor.ac.uk)