Testun-i-Leferydd

Mae technolegau testun-i-leferydd yn caniatáu i system gyfrifiadurol lefaru unrhyw destun gyda llais synthetig neu naturiol. Gall y testun ddeillio o ddogfennau, gwefan, negeseuon testun neu system meddalwedd wedi’i mewnblannu (lle nad oes modd dangos testun ar sgrin).

Mae adnoddau testun-i-leferydd Cymraeg y Porth Technolegau Iaith wedi’i seilio ar ddwy system cod agored sef:

– Festival Speech Synthesis System (http://www.cstr.ed.ac.uk/projects/festival/)
– MaryTTS (http://mary.dfki.de/)

Adnoddau MaryTTS

Mae adnoddau MaryTTS y Porth Technolegau Iaith yn eich galluogi i ddefnyddio a chreu lleisiau synthetig Cymraeg eich hunan. Mae’r lleisiau yn swnio’n naturiol iawn ac mae’r broses yn un hynod o hwylus.

Ewch i’r adnoddau ar GitHub i ddysgu mwy:

techiaith/docker-marytts

Adnoddau Festival

Mae’r llais Cymraeg ar gyfer Festival ar gael yn rhad ac am ddim i’w lwytho i lawr neu’i ddefnyddio ar-lein. Dyma ddemo o’r llais:

Mae’r adnodd ar gael i’w lwytho i lawr o’n tudalennau GitHub:

techiaith/llais_festival

Mae modd i chi lwytho’r llais Cymraeg ar gyfer Festival i lawr yn uniongyrchol drwy’r ddolen:

https://github.com/PorthTechnolegauIaith/llais_festival/archive/v1.1.0.tar.gz

Gwasanaeth API

Os nad yw’n ymarferol bosib i chi defnyddio Festival a’r llais Cymraeg o fewn eich project, yna mae’r llais ar gael drwy API dros y we.

API Testun-i-Leferydd Cymraeg

Mae gwasanaeth API ar-lein testun-i-leferydd yn caniatáu i chi ddefnyddio llais synthetig Cymraeg o fewn eich meddalwedd, apiau a gwefannau! Mae’n wasanaeth hawdd i’w ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim.

Cofrestrwch ar ein canolfan APIs er mwyn derbyn allwedd API er mwyn gallu defnyddio'r gwasanaeth. Dyma gyfarwyddiadau ar sut mae derbyn allwedd API.

PorthTechnolegauIaith/festival

Rhagor o adnoddau Festival ar GitHub

techiaith/Festival_Windows

techiaith/pyfestival

techiaith/Festival_MSAPI