Mae technolegau iaith yn chwyldroi’r byd cyfieithu. Yma yn yr Uned Technolegau Iaith, credwn bod angen i’r diwydiant cyfieithu yn Nghymru feddu ar yr adnoddau a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol i allu meistrioli’r technolegau newydd hyn i’r eithaf.
Credwn y dylai’r diwydiant ddefnyddio technolegau cyfieithu ar y seiliau canlynol :
- Peiriannau cyfieithu parth-benodol
- Data ffynhonellau agored a chaeedig
- Perchnogaeth a rhannu
- Safonau, ymchwil a hyfforddiant
- Blaenoriaethu anghenion cwsmeriaid cyfieithu Cymraeg
Mae’r Porth Technolegau Iaith yn cynnwys nifer o adnoddau cyfieithu rhydd ac agored allai gyfrannu at wireddu’r nod hwn. Gobeithiwn y bydd y Porth yn arwain at egino a magu cymuned o ddatblygwyr ac ymarferwyr technolegau iaith o fewn y diwydiant cyfieithu Cymraeg.
DEMO CYFIEITHU PEIRIANYDDOL

Pa adnoddau sydd ar gael?
Mae adnoddau hwyluso cyfieithu ar gael gan y Porth Technolegau Iaith:
- Cyfieithu Peirianyddol Cymraeg <> Saesneg gyda Moses-SMT
- Gwasanaeth API Cyfieithu Peirianyddol (http://api.techiaith.org)
- Aliniwr er mwyn darparu data ar gyfer hyfforddi Moses-SMT