Ategyn Cysill Ar-lein

Mae’r ategyn Cysill Ar-lein yn ychwanegu y gwirydd sillafu a gramadeg Cysill at ryngwyneb eich gwefan. Er mwyn integreiddio’r ategyn i mewn i’ch gwefan, dilynwch y camau isod:

  1. Ychwanegwch ddau dag <script> i god tudalen eich gwefan; un gyda’ch allwedd API, ac un gyda URL y sgript Cysill Ar-lein: (D.S. rhaid gosod eich allwedd API personol chi yn lle “EICH_ALLWEDD_API”. Ewch i Sut i gofrestru ar gyfer allwedd API ar gyfer y cyfarwyddiadau llawn ar sut i wneud hyn):
    <script>
            var CYSILL_API_KEY = "EICH_ALLWEDD_API";
    </script>
    <meta name="gwt:property" content="locale=cy" />
    <script type="text/javascript" language="javascript" src="https://api.techiaith.org/cysill/ui/CysillArlein/CysillArlein.nocache.js"></script>
  2. Ychwanegwch <div> gydag id=CysillArleinApp unrhyw le o fewn eich tudalen:
    <div id="fy_nhudalen">
    <div id='CysillArleinApp'></div>
    </div>

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaeth hwn, gan gynnwys dogfennaeth a demos, ewch at y dudalen GitLab yma. I weld esiampl o’r ategyn hwn yn cael ei ddefnyddio, dilynwch y ddolen yma at dudalen boblogaidd Cysill Ar-lein.