Rhaglen Y Gynhadledd 2021

Rhaglen Y Gynhadledd

Darperir cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg yn ystod y gynhadledd

Dydd Gwener, 26 Chwefror, 2021, dros Zoom

9.30 Agor y gynhadledd 

Gair o groeso gan yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor i Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg i agor y gynhadledd

Anerchiad byr gan Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Sesiwn 1: Agenda a Map Ffordd newydd ar gyfer Cydraddoldeb Ieithyddol Digidol yn Ewrop (ELE)

9.45  Jill Evans, Cyn ASE a Chynigydd y cynnig llwyddiannus i Senedd Ewrop ar Gydraddoldeb Digidol yn yr Oes Ddigidol: Cefndir y penderfyniad i gael Cydraddoldeb Digidol i holl ieithoedd Ewrop erbyn 2030

10.15 Davyth Hicks, Ysgrifennydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Iaith Ewropeaidd (ELEN): The European Parliament’s Resolution on Language Equality in the Digital Age and its importance for Europe’s Lesser Used Languages

10.45 Andy Way, Dirprwy Gyfarwyddwr ADAPT, DCU, Iwerddon, ac Arweinydd project Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop (ELE): Constructing a new agenda and roadmap for Europe to ensure language equality in the digital age by 2030.

11.15 – 11.30 Toriad am baned

Sesiwn 2: Adnoddau Iaith a Lleferydd Newydd technolegau iaith Cymraeg

11.30 Gruffudd Prys, Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor: Piblinell prosesu iaith naturiol newydd ar gyfer y Gymraeg

12.00 Dewi Bryn Jones, Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor: Trawsgrifwr Cymraeg ar gyfer isdeitlo fideos yn awtomatig

12.30 Stefano Ghazzali, Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor:Defnyddio Cyfieithu Peirianyddol Cymraeg/Saesneg i beilota systemau amlieithog ar gyfer cwmnïau bach a chanolig yng Nghymru

1.00 – 1.30 Cinio 

Sesiwn 3: Manteision Economaidd Y Gymraeg ac Amlieithrwydd  

1.30 Kerry Ferguson (Cyfarwyddwr Marchnata Gwe Cambrian Web Cyf): Creu busnes llwyddiannus o ddatblygu gwefannau dwyieithog

2.00 Richard Sheppard (Interceptor Solutions): Bilingual Software Procurement Guidelines

2.30 Pryderi ap Rhisiart: MSPARC: Economi Gogledd Orllewin Cymru a Thechnoleg Cymraeg

3.00 Tom Burke (Animated Technologies) & Andy Esser (Zero Dependency): Using English/Welsh Bilinguality as a Testbed for a New Multilingual On-line Conferencing System

3.30 Crynhoi, sylwadau clo a chau’r gynhadledd