Gwasanaethau API

Mae gan y Porth Technolegau Iaith ganolfan gwasanaethau APIs sydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau technoleg iaith ar-lein. Darparir y gwasanaethau fel rhyngwyneb rhaglennu (neu ‘API’) sy’n hawdd i’w ddefnyddio o fewn eich meddalwedd a phrojectau Cymraeg a dwyieithog.

Y cyfeiriad yw : https://api.techiaith.org

Dilynwch y ddolen uchod i weld pa wasanaethau sydd ar gael, ac i gofrestru ar gyfer eich allwedd API unigryw.

Beth yw ‘API’?

Mae API yn rhyngwyneb hwylus sy’n rhoi mynediad at gydran meddalwedd sydd yn darparu swyddogaethau penodol. Gellir defnyddio un neu gyfres o APIs i adeiliadu system meddalwedd mwy cymhleth.

API Ar-lein y Porth Technolegau Iaith

Mae darpariaeth API y Porth Technolegau Iaith yn gweithio ar-lein ac yn eich cysylltu chi fel defnyddiwr gyda’n gweinyddion ni yma yn yr Uned Technolegau Iaith. Yn y modd yma, gallwch ddefnyddio gwasanaethau fyddai fel arfer yn gofyn am lawer iawn o bŵer cyfrifiadurol, neu a fyddai yn anodd i’w gosod a’u ffurfweddu at anghenion gwahanol systemau a dyfeisiau. Oherwydd hyn, mae modd i chi ddefnyddio amrywiaeth eang o galedwedd i gael mynediad at ein gwasanaethau:

  • Tabledi
  • Ffonau symudol Android ac iOS
  • Cyfrifiaduron bwrdd gwaith
  • Gliniaduron

Pa Wasanaethau API sydd ar gael?

Mae’r wasanaethau API canlynol ar gael gan y Porth Technolegau Iaith :

  • API Cysill Ar-lein

  • API Tagiwr Rhannau Ymadrodd