Mae gan y Porth Technolegau Iaith ganolfan gwasanaethau APIs sydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau technoleg iaith ar-lein. Darparir y gwasanaethau fel rhyngwyneb rhaglennu (neu ‘API’) sy’n hawdd i’w ddefnyddio o fewn eich meddalwedd a phrojectau Cymraeg a dwyieithog.
Y cyfeiriad yw : https://api.techiaith.org
Dilynwch y ddolen uchod i weld pa wasanaethau sydd ar gael, ac i gofrestru ar gyfer eich allwedd API unigryw. Dyma gyfarwyddiadau ar Sut i gofrestru ar gyfer allwedd API
Beth yw ‘API’?
Mae API yn rhyngwyneb hwylus sy’n rhoi mynediad at gydran meddalwedd sydd yn darparu swyddogaethau penodol. Gellir defnyddio un neu gyfres o APIs i adeiliadu system meddalwedd mwy cymhleth.
API Ar-lein y Porth Technolegau Iaith
Mae darpariaeth API y Porth Technolegau Iaith yn gweithio ar-lein ac yn eich cysylltu chi fel defnyddiwr gyda’n gweinyddion ni yma yn yr Uned Technolegau Iaith. Yn y modd yma, gallwch ddefnyddio gwasanaethau fyddai fel arfer yn gofyn am lawer iawn o bŵer cyfrifiadurol, neu a fyddai yn anodd i’w gosod a’u ffurfweddu at anghenion gwahanol systemau a dyfeisiau. Oherwydd hyn, mae modd i chi ddefnyddio amrywiaeth eang o galedwedd i gael mynediad at ein gwasanaethau:
- Tabledi
- Ffonau symudol Android ac iOS
- Cyfrifiaduron bwrdd gwaith
- Gliniaduron
Pa Wasanaethau API sydd ar gael?
Mae’r wasanaethau API canlynol ar gael gan y Porth Technolegau Iaith :
-
API Cysill Ar-lein (darllen rhagor…)
-
API Tagiwr Rhannau Ymadrodd (darllen rhagor…)
-
API Lemmateiddiwr (darllen rhagor…)
-
API Testun i Leferydd Cymraeg (darllen rhagor…)
-
API Adnabod Iaith (darllen rhagor…)