Cefndir

reichelCynhaliwyd cynhadledd technoleg iaith Trwy Ddulliau Technoleg  ar y 6ed o Fawrth 2015. Bwriad y gynhadledd oedd dwyn ynghyd academyddion ac ymarferwyr sydd â diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol.

Wedi ei lleoli yn Neuadd Reichel, roedd y gynhadledd yn cynnwys sgyrsiau gan nifer o siaradwyr gwadd, sesiwn arddangos adnoddau y Porth, astudiaethau achos a thrafodaeth ymysg siaradwyr o gymunedau ieithoedd lleiafrifol.

Cyfeiriad yw teitl y gynhadledd at araith ddylanwadol Saunders Lewis Tynged yr Iaith, ac mae hyn yn adlewyrchu y gobaith y bydd hybu technoleg iaith ymysg ieithoedd lleiafrifol yn fodd o gadarnhau eu hadfywiad.

Yn dilyn y gynhadledd, ar y 7fed o Fawrth bu i ni gynnal digwyddiad blynyddol hacio’r iaith yn y Brifysgol, yn cynnwys hacathon gan ddefnyddio adnoddau’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru.