API Lemateiddiwr

Mae’r gwasanaeth API lemateiddiwr yn caniatáu i ddefnyddwyr dderbyn lema unrhyw air sydd wedi’i dreiglo, rhedeg neu’i ffurfdroi, heb angen gosod meddalwedd arbennig ar eu cyfrifiaduron. Mae’n wasanaeth hawdd i’w ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim.

Ewch at ein canolfan gwasanaethau APIs er mwyn cofrestru a derbyn allwedd API er mwyn gallu defnyddio’r gwasanaeth. Dyma gyfarwyddiadau ar sut mae derbyn allwedd API.

Mae modd i chi fewnbynnu unrhyw air i mewn i’r API a derbyn y lema. Er enghraifft, os mewnbynnwch “rhedais” i mewn i’r API, bydd y lema “rhedeg” yn cael ei ddychwelyd

Dyma’r unig wasanaeth o’r fath sy’n bodoli drwy gyfrwng y Gymraeg ar y we. Gallai’r gwasanaeth fod yn ddefnyddiol mewn sawl cyd-destun gan gynnwys gwefannau geiriaduron ar-lein.

 

Cydnabyddiaeth

Dylai unrhyw erthyglau neu feddalwedd a seiliwyd ar ddefnydd yr API hwn ddyfynnu:

Jones, D. B., Robertson, P., Prys, G. (2015) Gwasanaeth API Lemateiddiwr Cymraeg [http://techiaith.cymru/api/lemateiddiwr/]