Diweddarwyd diwethaf 07/05/2021
Mae Prifysgol Bangor (“ni” neu “ein”) yn parchu preifatrwydd ein defnyddwyr (“y defnyddiwr” neu “chi”). Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio, datgelu a diogelu eich gwybodaeth pan fyddwch yn defnyddio ein ap symudol (yr “ap”). Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn yn ofalus. OS NAD YDYCH YN CYTUNO Â THELERAU’R POLISI PREIFATRWYDD HWN, PEIDIWCH Â DEFNYDDIO’R AP.
Rydym yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm. Byddwn yn eich rhybuddio am unrhyw newidiadau trwy ddiweddaru dyddiad “Diweddarwyd diwethaf” y Polisi Preifatrwydd hwn. Fe’ch anogir i adolygu’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddiweddariadau. Bernir eich bod wedi cael gwybod amdano, y byddwch yn ddarostyngedig iddo, a’ch bod wedi derbyn y newidiadau mewn unrhyw Bolisi Preifatrwydd diwygiedig trwy fod ichi barhau i ddefnyddio’r ap ar ôl y dyddiad y caiff y Polisi Preifatrwydd diwygiedig hwnnw ei bostio.
Nid yw’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r siop ar-lein / symudol trydydd parti rydych chi’n gosod yr ap ohoni neu’n gwneud taliadau, gan gynnwys unrhyw eitemau rhithwir o fewn gemau, a allai hefyd gasglu a defnyddio data amdanoch chi. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ran o’r data a gesglir gan unrhyw drydydd parti o’r fath.
CASGLU EICH GWYBODAETH
DATA PERSONOL
Wrth i chi ofyn cwestiwn neu roi gorchymyn i’r ap Macsen, bydd y neges yn cael ei drosglwyddo i weinydd pell i’w weithredu. Ni fydd y gweinydd hwn yn cadw recordiad o’ch llais na’ch testun.
DEFNYDDIO EICH GWYBODAETH
Defnyddir eich cyfeiriad IP yn unig at y pwrpas o amddiffyn ein gweinyddion rhag ymosodiadau DDOS maleisus trwy sicrhau na all yr un IPs orlifo ein gweinyddion â sawl cais mewn cyfnod byr o amser. O ganlyniad nid ydym yn cadw’r data am gyfnod amhenodol.
Os ydych chi am helpu gwella ap Macsen, drwy recordio’r set brawddegau a geir o dan y tab Hyfforddi ar y ddyfais hon, sylwch y bydd y recordiadau hynny yn cael eu cadw a’u storio ar weinydd y project. Byddant yn cael eu cyhoeddi ar drwydded agored ganiataol fel rhan o set ddatblygu neu set brofi. Golyga hynny y bydd modd i unrhyw un arall ddefnyddio’r recordiadau hefyd heb gyfyngiad. Ni fydd enw nac unrhyw fanylion personol eraill ynghlwm a’ch recordiadau a thestunau.
Os ydych yn dymuno cyfrannu recordiadau o’ch llais er mwyn gwella technoleg lleferydd Cymraeg mae modd i chi wneud hynny drwy CommonVoice Cymraeg. Mae eu telerau a’u hamodau hwy i’w gweld ar wefan CommonVoice Mozilla.
At ddibenion cyfrif y nifer o bobl sy’n defnyddio ap Macsen, rydym yn cyfrif nifer y lawrlwythiadau a’r diweddariadau o’r Google Play Store, ond nid ydym yn casglu manylion personol defnyddwyr.
DIOGELWCH EICH GWYBODAETH
Rydym yn defnyddio mesurau gweinyddol, technegol a chorffol ym maes diogelwch i helpu amddiffyn eich gwybodaeth bersonol. Er ein bod wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau’r wybodaeth bersonol a roddwch i ni, dylech fod yn ymwybodol, er gwaethaf ein hymdrechion, nad oes unrhyw fesurau diogelwch yn berffaith nac yn anhreiddiadwy, ac ni ellir gwarantu unrhyw ddull o drosglwyddo data yn erbyn unrhyw ryng-gipiad neu fath arall o gamddefnydd. Mae unrhyw wybodaeth a ddatgelir ar-lein yn agored i ryng-gipio a chamddefnyddio gan bartïon heb eu hawdurdodi. O ganlyniad, ni allwn warantu diogelwch llwyr os ydych chi’n darparu gwybodaeth bersonol.
CYSYLLTU Â NI
Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau am y Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni:
Uned Technolegau Iaith
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Cymru, y DU
techiaith@bangor.ac.uk