Cynhelir gweithdy ymarferol ar sut i wneud defnydd llawn o adnoddau’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 18 Mehefin, 2019.
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer datblygwyr meddalwedd, hacwyr, ieithwyr cyfrifiadurol, athrawon cyfrifiadureg, gwirfoddolwyr technoleg iaith, a phawb sy’n ymddiddori mewn defnyddio adnoddau’r Porth mewn cynnyrch cyfrifiadurol Cymraeg ac amlieithog.
Byddwn yn ceisio cynnal gweithdai i ateb diddordebau penodol y rhai fydd yn bresennol. Y themâu dan sylw yw:
- Adnoddau Adnabod lleferydd
- Adnoddau Testun i leferydd
- Gwasanaethau API ac ategynion (Vocab, Cysill Ar-lein, Termau, Lemateiddiwr)
- Adnoddau Cyfieithu Peirianyddol
- Cyfrannu i Common Voice
Bydd y gweithdai yn cael eu rhedeg gan staff yr Uned Technolegau Iaith a’u partneriaid.
Agenda
9.30 Cyrraedd & Phaned
10.00 Croeso a throsolwg
- Y Porth Technolegau Iaith a hybu’r sector meddalwedd Cymraeg: Delyth Prys
- Adnoddau Lleferydd a Chyfieithu: Dewi Bryn Jones
- Gwasanaethau API ac ategion: Stefanol Ghazzali
11.15 – Paned
11.30 – 12.30 – Gweithdai cyfochrog
12.30 – 13.00 – Cinio
13.00 – 15.00 – Gweithdai cyfochrog – parhau o’r bore neu weithdai newydd
15.00 – 15.30 – Paned
15.30 – 16.00 – Trafodaeth i gloi: Sgwrsfotiaid, dadansoddwyr ystyr a’r ffordd ymlaen ar gyfer TI Cymraeg
16.00 Cau
Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd ar agor yn awr.
Noddir y gweithdy hwn gan yr ESRC drwy Gronfa Cyflymu Effaith Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.