7. Geirfa

Isod ceir rhestr syml o rai o’r termau allweddol yn y Llawlyfr hwn. Ceir arweiniad llawnach i dermau technegol yn y maes yn Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hwnnw ar gael ar ffurf geiriadur ar-lein ar wefan y Coleg Cymraeg yn  http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/adnoddau/termau, ac mae hefyd yn rhan o’r Porth Termau Cenedlaethol ar http://termau.cymru. Ceir fersiwn ar gyfer ffonau symudol a thabledi Android ac iOS o fewn yr Ap Geiriaduron sydd ar gael o Google play o’r App Store.

Cymraeg Saesneg
adnabod endidau entity recognition
adnabod llais voice recognition
adnabod lleferydd speech recognition
adnabod pwnc topic identification
addasu ar gyfer parth domain adaptation
alinio alignment
amgodiwr-datgodiwr encoder-decoder
anodedig annotated
awtonomi autonomy
banodolyn determiner
berf wahanadwy separable verb
brasgyfieithu gisting
cit offer iaith naturiol natural language toolkit
clystyru clustering
corpws safon aur gold standard corpus
crynodebu summarization
cwgn node
cydgadwyno concatenate
cyfieithu peirianyddol machine translation
cyfieithu peirianyddol ar sail rheolau rule-based machine translation
cyfieithu peirianyddol ar sail rhwydweithiau niwral neural-based machine translation
cyfieithu peirianyddol ar sail ystadegau statistics-based machine translation
cyflwr cudd hidden state
cyflynol agglutinative
cyfnewid iaith code switching
cyfradd geiriau gwallus word error rate
cyffredinoli generalize
cynhyrchu iaith naturiol natural language generation
cynllunio awtomeiddiedig automated planning
cynorthwyydd digidol personol personal digital assistant
dadamwyso ffiniau brawddegau sentence boundary disambiguation
dadansoddi sentiment sentiment analysis
data anstrwythuredig unstructured data
data strwythuredig structured data
datgodiwr decoder
deallusrwydd artiffisial artificial intelligence
deallusrwydd artiffisial cryf strong artificial intelligence
deallusrwydd artiffisial cul narrow artificial intelligence
deallusrwydd artiffisial cyffredinol general artificial intelligence
deallusrwydd artiffisial gwan weak artificial intelligence
dehongladwyedd interprability
deuffon diphone
difodiant digidol digital extinction
dull ar sail rheolau rule-based approach
dull cadwyni Markov Markov chains method
dysgu atgyfnerthol reinforced learning
dysgu dan oruchwyliaeth supervised learning
dysgu dwfn deep learning
dysgu heb oruchwyliaeth unsupervised learning
dysgu peirianyddol machine learning
echdynnu cysyniadau concept extraction
gair deffro wake word
fector vector
glanhau cleaning
gorfodwr alinio forced aligner
gorffitio overfitting
gramadeg cyflwr meidraidd finite state grammar
gwirfeintio truecasing
ffôn phone
ffonem phoneme
ffurfdroi inflect
lemateiddiwr lemmatizer
llyfrgell adnoddau prosesu iaith language processing resource library
mecanwaith sylw attention mechanism
model acwstig acoustic model
model cyfieithu translation model
model cymysgedd Gaussaidd Gaussian mixture model
model cynhyrchiol generative model
model iaith language model
model Markov cudd hidden Markov model
monoffon monophone
mynegeio indexing
mynegiad rheolaidd regular expression
n-gram n-gram
parsio bwriad intent parsing
parsio cyfansoddion constituency parsing
parsio dibyniaethau dependency parsing
parsiwr parser
parsiwr bas shallow parser
peiriant cyfieithu parth-benodol domain-specific translation machine
pen-i-ben end-to-end
prosesu iaith naturiol natural language processing
rwydweithiau cynhyrchiol gwrthwynebus generative adversarial networks
rhestr ataleiriau stoplist
rhesymu gwybodaeth knowledge reasoning
rhwydwaith niwral ailadroddol recurrent neural network
rhwydwaith niwral dwfn deep neural network
safon aur gold standard
segmentiwr segmenter
set brofi test set
set diwnio tuning set
set hyfforddi training set
system gwelediad cyfrifiadurol computer vision system
tagiwr rhannau ymadrodd part of speech tagger
taflod velum
talent llais voice talent
teneurwydd data data sparsity
testun i leferydd text to speech
tocyneiddio tokenization
tocyneiddiwr tokenizer
tocyn lecsigol lexical token
tra-chywiredd precision
traethiad predicate
triffon triphone
theori iaith ffurfiol formal language theory
ymadrodd berfol verb phrase
ymadrodd enwol noun phrase
ymadrodd wedi’i alinio phrase alignment
ymaddasolrwydd adaptivity
ystadegaeth statistics

 

Cynnwys  Blaenorol