Isod ceir rhestr syml o rai o’r termau allweddol yn y Llawlyfr hwn. Ceir arweiniad llawnach i dermau technegol yn y maes yn Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hwnnw ar gael ar ffurf geiriadur ar-lein ar wefan y Coleg Cymraeg yn http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/adnoddau/termau, ac mae hefyd yn rhan o’r Porth Termau Cenedlaethol ar http://termau.cymru. Ceir fersiwn ar gyfer ffonau symudol a thabledi Android ac iOS o fewn yr Ap Geiriaduron sydd ar gael o Google play o’r App Store.
Cymraeg | Saesneg |
adnabod endidau | entity recognition |
adnabod llais | voice recognition |
adnabod lleferydd | speech recognition |
adnabod pwnc | topic identification |
addasu ar gyfer parth | domain adaptation |
alinio | alignment |
amgodiwr-datgodiwr | encoder-decoder |
anodedig | annotated |
awtonomi | autonomy |
banodolyn | determiner |
berf wahanadwy | separable verb |
brasgyfieithu | gisting |
cit offer iaith naturiol | natural language toolkit |
clystyru | clustering |
corpws safon aur | gold standard corpus |
crynodebu | summarization |
cwgn | node |
cydgadwyno | concatenate |
cyfieithu peirianyddol | machine translation |
cyfieithu peirianyddol ar sail rheolau | rule-based machine translation |
cyfieithu peirianyddol ar sail rhwydweithiau niwral | neural-based machine translation |
cyfieithu peirianyddol ar sail ystadegau | statistics-based machine translation |
cyflwr cudd | hidden state |
cyflynol | agglutinative |
cyfnewid iaith | code switching |
cyfradd geiriau gwallus | word error rate |
cyffredinoli | generalize |
cynhyrchu iaith naturiol | natural language generation |
cynllunio awtomeiddiedig | automated planning |
cynorthwyydd digidol personol | personal digital assistant |
dadamwyso ffiniau brawddegau | sentence boundary disambiguation |
dadansoddi sentiment | sentiment analysis |
data anstrwythuredig | unstructured data |
data strwythuredig | structured data |
datgodiwr | decoder |
deallusrwydd artiffisial | artificial intelligence |
deallusrwydd artiffisial cryf | strong artificial intelligence |
deallusrwydd artiffisial cul | narrow artificial intelligence |
deallusrwydd artiffisial cyffredinol | general artificial intelligence |
deallusrwydd artiffisial gwan | weak artificial intelligence |
dehongladwyedd | interprability |
deuffon | diphone |
difodiant digidol | digital extinction |
dull ar sail rheolau | rule-based approach |
dull cadwyni Markov | Markov chains method |
dysgu atgyfnerthol | reinforced learning |
dysgu dan oruchwyliaeth | supervised learning |
dysgu dwfn | deep learning |
dysgu heb oruchwyliaeth | unsupervised learning |
dysgu peirianyddol | machine learning |
echdynnu cysyniadau | concept extraction |
gair deffro | wake word |
fector | vector |
glanhau | cleaning |
gorfodwr alinio | forced aligner |
gorffitio | overfitting |
gramadeg cyflwr meidraidd | finite state grammar |
gwirfeintio | truecasing |
ffôn | phone |
ffonem | phoneme |
ffurfdroi | inflect |
lemateiddiwr | lemmatizer |
llyfrgell adnoddau prosesu iaith | language processing resource library |
mecanwaith sylw | attention mechanism |
model acwstig | acoustic model |
model cyfieithu | translation model |
model cymysgedd Gaussaidd | Gaussian mixture model |
model cynhyrchiol | generative model |
model iaith | language model |
model Markov cudd | hidden Markov model |
monoffon | monophone |
mynegeio | indexing |
mynegiad rheolaidd | regular expression |
n-gram | n-gram |
parsio bwriad | intent parsing |
parsio cyfansoddion | constituency parsing |
parsio dibyniaethau | dependency parsing |
parsiwr | parser |
parsiwr bas | shallow parser |
peiriant cyfieithu parth-benodol | domain-specific translation machine |
pen-i-ben | end-to-end |
prosesu iaith naturiol | natural language processing |
rwydweithiau cynhyrchiol gwrthwynebus | generative adversarial networks |
rhestr ataleiriau | stoplist |
rhesymu gwybodaeth | knowledge reasoning |
rhwydwaith niwral ailadroddol | recurrent neural network |
rhwydwaith niwral dwfn | deep neural network |
safon aur | gold standard |
segmentiwr | segmenter |
set brofi | test set |
set diwnio | tuning set |
set hyfforddi | training set |
system gwelediad cyfrifiadurol | computer vision system |
tagiwr rhannau ymadrodd | part of speech tagger |
taflod | velum |
talent llais | voice talent |
teneurwydd data | data sparsity |
testun i leferydd | text to speech |
tocyneiddio | tokenization |
tocyneiddiwr | tokenizer |
tocyn lecsigol | lexical token |
tra-chywiredd | precision |
traethiad | predicate |
triffon | triphone |
theori iaith ffurfiol | formal language theory |
ymadrodd berfol | verb phrase |
ymadrodd enwol | noun phrase |
ymadrodd wedi’i alinio | phrase alignment |
ymaddasolrwydd | adaptivity |
ystadegaeth | statistics |