Vocab 2.0 (beta)

Beta

Mae Vocab 2.0 yn ddiwygiad o’r cod a’r technolegau defnyddir ar gyfer y Vocab gwreiddiol, sydd wedi bod ar gael am ddim ers 2015.  Gan fod hyn yn golygu trosi cod bron i gyd, rydyn dal i’w brofi a’i chaboli. Gynted bydd y gwaith yma wedi ei orffen bydd y statws ‘beta’ yn cael ei ollwng a’r hen fersiwn yn cael ei ddisodli gan Vocab 2.0.

 

Beth yw Vocab?

Mae’r ategyn Vocab yn adnabod geiriau o eiriaduron megis Cysgair a’r Termiadur Addysg yn nhestun eich gwefan, ac yn eu tanlinellu.  Ar ôl gosod y rhaglen, bydd modd i ddefnyddwyr weld cofnodion geiriadurol llawn drwy symud y llygoden dros eiriau sydd wedi’u tanlinellu.

 

Manylion Pellach

Cysylltwch â ni trwy e-bostio techiaith@bangor.ac.uk am ragor o fanylion.