Rhwydwaith Genedlaethol Technolegau Iaith Cymraeg 

Mae’r Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor yn sefydlu Rhwydwaith Genedlaethol Technolegau Iaith newydd ar gyfer y Gymraeg. Bwriad y rhwydwaith yw dod ag academyddion, pobl o ddiwydiant, y byd cyhoeddus ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn Technolegau Iaith at ei gilydd er mwyn hybu ymchwil yn y maes, yn enwedig ar gyfer y Gymraeg a ieithoedd eraill llai eu hadnoddau.

Bydd y rhwydwaith yn hysbysebu digwyddiadau perthnasol, gan gynnwys cynadleddau, gweithdai a chyfleoedd cyfnewid gwybodaeth yng Nghymru, a bydd cyfle i aelodau gyfarfod â’i gilydd yn y digwyddiadau hyn. Y gobaith yw y bydd y rhwydwaith yn fodd i gynyddu gweithgarwch yn y maes, ac yn hybu projectau ymchwil a diwydiant newydd. Mae croeso i sefydliadau, cwmnïau ac unigolion ymaelodi yn y Rhwydwaith. Bydd y rhwydwaith ar agor i aelodau newydd o’r 14eg Gorffennaf 2020 i chi ymaelodi ac am fanylion pellach ar http://rhwydwaith.techiaith.cymru

Noddir y Rhwydwaith gan Lywodraeth Cymru.