Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg
Dydd Gwener, 24 Chwefror, 2023, yn Adeilad Reichel, Prifysgol Bangor 9.30 y bore i 4 y prynhawn
Agorir y gynhadledd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, gyda gair o groeso gan Yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor
Cadeirydd y Gynhadledd: Yr Athro Delyth Prys
Trefnydd y Gynhadledd: Stefano Ghazzali
Y bumed yn ein cyfres ar gyfer pawb sydd â diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol, ac yn arbennig, y Gymraeg.
Mae’n bleser gennym fedru gwahodd pawb i gwrdd unwaith eto ym Mhrifysgol Bangor ar ôl dyddiau tywyll Covid-19. Croeso cynnes i chi i gyd.
Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd ar agor yn awr
Noddir y gynhadledd gan Lywodraeth Cymru.