Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg
Dydd Gwener, 25 Ionawr, 2019, yn Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor 9.30 y bore i 4 y prynhawn
Y drydedd yn ein cyfres ar gyfer academyddion ac ymarferwyr sydd â diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol, ac yn arbennig, y Gymraeg.
I’w agor gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol fydd yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru
Ymhlith y siaradwyr eraill bydd:
Claudia Soria, Sefydliad Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol “A. Zampolli”, Pisa, yr Eidal: The DLDP’s Digital Language Survival Kit
Kelly Davis, Mozilla: Mozilla’s Deep Speech Project for Speech Recognition
Teresa Lynn, DCU, Iwerddon: Machine Translation and the Irish Experience
Myfyr Prys, Cysylltai KTP Cymen / Prifysgol Bangor: Cyfieithu Peirianyddol Parth Benodol
Jason Evans, Wikimediwr Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Wicipedia Cymraeg a Data Cymraeg Wikidata
Themâu’r gynhadledd fydd:
- Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg
- Strategaethau digidol ac adfywiad iaith
- Adnabod Lleferydd ar gyfer y Gymraeg
- Technolegau iaith fel gyrrwr i’r economi
Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd ar agor.
Noddir y gynhadledd gan Lywodraeth Cymru
a Gyda chefnogaeth Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC Prifysgol Bangor.