Cynhaliwyd cynhadledd technoleg iaith Trwy Ddulliau Technoleg ar y 6ed o Fawrth 2015. Bwriad y gynhadledd oedd dwyn ynghyd academyddion ac ymarferwyr gyda diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol.
Wedi ei lleoli yn Neuadd Reichel, cynhwysodd y gynhadledd sgyrsiau gan nifer o siaradwyr gwadd, sesiwn arddangos adnoddau y Porth, astudiaethau achos a thrafodaeth ymysg siaradwyr o gymunedau ieithoedd lleiafrifol.
Cyfeiriad oedd teitl y gynhadledd at araith ddylanwadol Saunders Lewis Tynged yr Iaith, ac mae hyn yn adlewyrchu y gobaith y bydd hybu technoleg iaith ymysg ieithoedd lleiafrifol yn fodd o gadarnhau eu hadfywiad.
Yn dilyn y gynhadledd, ar y 7fed o Fawrth cynhaliwyd digwyddiad blynyddol Hacio’r Iaith yn y Brifysgol, gyda hacathon yn defnyddio adnoddau’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru.
Os hoffech chi ddarllen rhai o’r cyflwyniadau a roddwyd yn ystod y gynhadledd, gallwch eu gweld yma.