Telerau Gwasanaethau API

Caiff cwsmeriaid fynediad at yr API (Application Program Interface) hwn gan ddefnyddio’r API a’r allwedd API a ddarparwyd wrth gofrestru. Mae unrhyw ddefnydd o’r API, gan gynnwys defnyddio’r API drwy gynnyrch trydydd parti sy’n cyrchu’r gwasanaeth hwn yn ddarostyngedig i’r Telerau Gwasanaeth hyn a’r telerau penodol a ganlyn:

  1. Rydych yn deall ac yn cytuno yn ffurfiol na fydd Prifysgol Bangor University yn atebol am unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, achlysurol, arbennig, ôl-ddilynol neu esiamplaidd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfynged i, iawndal am golli elw, ewyllys da, defnydd, data neu golledion anghyfforddadwy eraill (hyd yn oed os ydi Prifysgol Bangor University wedi cael ei hysbysu o bosibilrwydd iawndal o’r fath), yn deillio o’ch defnydd o’r API neu gynnyrch trydydd parti sy’n cyrchu data drwy’r API.
  2. Gall camddefnydd neu geisiadau gor-aml i’r API olygu y bydd mynediad eich cyfrif at yr API yn cael ei atal dros dro neu yn barhaol. Bydd Prifysgol Bangor University, ar ei ddisgresiwn ei hun yn unig, yn pennu beth sy’n gamddefnydd neu’n or-ddefnydd o’r API. Bydd Prifysgol Bangor University yn gwneud ymgais resymol drwy e-bost i rybuddio deiliad y cyfrif cyn iddo gael ei atal.
  3. Mae Prifysgol Bangor University yn gosod cyfyngiad ar y nifer o geisiadau y gellir eu gwneud o fewn ffenestr amser benodol. Defnyddir hyn i leihau camddefnydd o’r API. Rhaid i chi beidio ceisio gweithio o amgylch neu anwybyddu’r cyfyngiad hwn heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Byddwch yn ymgeisio i gadw’r allwedd API a ddarparwyd i chi yn gyfrinachol i leihau’r risg o gamddefnydd gan drydydd parti. Ceir manylion ar sut i gadw trac o’ch cyfyngiadau yn nogfennaeth yr API.
  4. Drwy gytuno i’r telerau hyn, rydych yn cytuno na fyddwch yn defnyddio unrhyw ddata a dderbyniwyd o’r API yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol i ôl-beiriannu’r API, ailbecynnu neu greu cynnyrch tebyg mewn dull tebyg, at unrhyw ddiben sy’ cystadlu’n uniongyrchol gyda’r API hwn. Nid yw hyn yn cyfeirio at feddalwedd sydd ar gael yn barod fel cod agored drwy Porth Technolegau Iaith Prifysgol Bangor University.
  5. Mae Prifysgol Bangor University yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg i addasu neu derfynu, dros dro neu yn barhaol, eich mynediad at yr API (neu unrhyw ran ohono) gyda neu heb rybudd.
  6. Mae Prifysgol Bangor University yn cadw’r hawl i ddefnyddio’r wybodaeth a yrrwch at yr API er mwyn gwella neu ddatblygu’r API ymhellach, neu ar gyfer gwaith ymchwil pellach. Gall Prifysgol Bangor University rannu data a gasglwyd drwy’r API hwn gyda thrydydd partïon o’i dewis ar ei disgresiwn, ac ni all warantu y bydd unrhyw ddata a ddarperwch chi yn ddienw. Ni ddylech ddefnyddio’r API hwn ar gyfer data sensitif neu gyfrinachol.
  7. Fel sy’n wir am y rhan fwyaf o wasanaethau rhyngrwyd, rydym yn casglu gwybodaeth arall, megis cyfeiriadau darparwyr rhyngrwyd (IP), y math o borwr a’r iaith, yn awtomatig, ac yn ei storio mewn ffeiliau log. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i’n helpu i weinyddu’r safle a hefyd i ddeall a dadansoddi tueddiadau cyffredinol. Ac eithrio mewn achosion cyfyngedig iawn er mwyn sicrhau gwasanaethau API, ni fydd cyswllt rhwng y cyfeiriadau IP a’r wybodaeth a ddanfonwyd at yr API. Byddwn yn cadw’r ffeiliau log am gyfnod o amser sydd ei angen i atal neu gyfyngu ar unrhyw gamddefnydd o’r API gan sicrhau ei fod ar gael i bob defnyddiwr, oni bai fod y ddeddf yn mynnu ein bod yn eu cadw am gyfnod hirach. Caiff y ffeiliau log eu dileu drwy ddulliau awtomatig yn dilyn amserlen reolaidd, gan ddefnyddio gorchmynion syml ar gyfer dileu ffeiliau.
  8. Mae Prifysgol Bangor University yn cadw’r hawl i addasu’r Telerau a’r Amadau hyn ar unrhyw adeg.