Ym mis Tachwedd 2017, derbyniodd yr Uned Technolegau Iaith grant bach oddi wrth gronfa Technoleg a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru, i weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar broject i alluogi cleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad i fancio eu llais eu hun ac yna greu llais synthetig digidol personol ohono. Nid oedd hyn erioed wedi bod ar gael i siaradwyr Cymraeg o’r blaen, ac mae’n gam mawr ymlaen i gleifion Cymraeg eu hiaith.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn i’w gael yma gan gynnwys manylion ar gyfer ddatblygwyr meddalwedd am god ffynhonnell y system.
Dyma fideo byr sy’n dangos sut mae modd i chi gofrestru am y gwasanaeth.
Mae’r pecyn wedi cael ymateb cychwynnol gadarnhaol iawn gan rhai therapyddion iaith a lleferydd ar y gwefannau cymdeithasol:
Mae’n gynyddol bosibl i chi siarad gyda’ch ffôn neu gyfrifiadur er mwyn gorchymyn a rheoli rhaglenni a dyfeisiau, yn ogystal â derbyn atebion deallus a pherthnasol i gwestiynau a ofynnwyd mewn iaith naturiol.
Mae’r galluoedd hyn yn bosibl o ganlyniad i gynnydd diweddar mewn technolegau iaith megis adnabod lleferydd, cyfieithu peirianyddol a phrosesu a deall iaith naturiol. Hwy felly yw’r prif alluogwyr ar gyfer newid a fydd yn tarfu ar y drefn bresennol ac yn achosi shifft sylfaenol yn y ffordd y bydd defnyddwyr yn ymgysylltu â’u dyfeisiau a’r ffordd y byddant yn defnyddio technoleg yn ehangach.
O edrych ar hyn yn ei gyd-destun hanesyddol ehangach, hwn yw’r cam nesaf naturiol yn natblygiad y rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron; o’r bysellfwrdd i’r llygoden, i dechnoleg cyffwrdd, i lais ac i iaith.
Mae pedwar prif lwyfan masnachol yn gyrru’r newid hwn, sef Siri, OK Google, Microsoft Cortana ac Amazon Alexa, yn ogystal â rhai llwyfannau agored llai adnabyddus.
Hyd yn hyn mae’r rhain yn darparu eu galluoedd pwerus yn Saesneg a rhai ieithoedd mawr eraill, a phrin yw’r dystiolaeth eu bod yn debygol o ymestyn eu dewis o ieithoedd i gynnwys y ‘gynffon hir’ o ieithoedd llai, gan gynnwys y Gymraeg, yn y dyfodol agos.
Noddwyd yr Uned felly gan Lywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Technoleg Gymraeg a’r Cyfryngau Digidol ac S4C i weithredu’r project Seilwaith Cyfarthrebu Cymraeg i sicrhau nad yw defnyddwyr sydd â’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt yn cael eu gadael ar ôl mewn datblygiadau o’r fath.
Bydd yn gosod sylfeini amrediad o dechnolegau Cymraeg i’w defnyddio yn yr amgylcheddau hyn, gan gynnwys gwella’r adnoddau adnabod lleferydd Cymraeg yn ogystal â chyfieithu peirianyddol er mwyn cael y budd mwyaf allan o’r galluoedd a ddarperir drwy dechnolegau wedi’u seilio ar y Saesneg.
Bydd holl allbynnau’r project ar gael yma, o Borth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru. Bydd y project yn symbylu datblygiad meddalwedd a gwasanaethau Cymraeg newydd a allai gyfrannu at brif-ffrydio’r Gymraeg yn y cam nesaf o ryngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron.
Yn y cyfamser, mae angen eich help! Cyfrannwch eich llais drwy ein ap Paldaruo:
Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf (ac yn arwain at ein cynhadledd ‘Trwy Ddulliau Technoleg’) byddwn yn cyhoeddi llu o adnoddau technolegau iaith drwy Twitter (@techiaith) a’r blog hwn.
Rydym yn gobeithio rhannu hanesion datblygwyr a chodwyr eraill ynglŷn â’u defnydd o’r adnoddau newydd rhain, felly cysylltwch â ni os bu unrhyw un o’r adnoddau yn ddefnyddiol yn eich gweithgareddau neu brojectau chi.
Mae ‘na gasgliad cyffrous ar ei ffordd, fydd yn hwb sylweddol ar gyfer codwyr a datblygwyr meddalwedd Cymraeg newydd.
Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a’u cronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg am noddi’r gwaith hwn sy’n rhan o’r Porth Technolegau iaith Cenedlaethol.
Dilynwch ein blog ar gyfer ein newyddion diweddaraf!