Tuag at ‘Siri’ Cymraeg….

Mae’n gynyddol bosibl i chi siarad gyda’ch ffôn neu gyfrifiadur er mwyn gorchymyn a rheoli rhaglenni a dyfeisiau, yn ogystal â derbyn atebion deallus a pherthnasol i gwestiynau a ofynnwyd mewn iaith naturiol.

Mae’r galluoedd hyn yn bosibl o ganlyniad i gynnydd diweddar mewn technolegau iaith megis adnabod lleferydd, cyfieithu peirianyddol a phrosesu a deall iaith naturiol. Hwy felly yw’r prif alluogwyr ar gyfer newid a fydd yn tarfu ar y drefn bresennol ac yn achosi shifft sylfaenol yn y ffordd y bydd defnyddwyr yn ymgysylltu â’u dyfeisiau a’r ffordd y byddant yn defnyddio technoleg yn ehangach.

O edrych ar hyn yn ei gyd-destun hanesyddol ehangach, hwn yw’r cam nesaf naturiol yn natblygiad y rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron; o’r bysellfwrdd i’r llygoden, i dechnoleg cyffwrdd, i lais ac i iaith.

Mae pedwar prif lwyfan masnachol yn gyrru’r newid hwn, sef Siri, OK Google, Microsoft Cortana ac Amazon Alexa, yn ogystal â rhai llwyfannau agored llai adnabyddus.

 

 

Hyd yn hyn mae’r rhain yn darparu eu galluoedd pwerus yn Saesneg a rhai ieithoedd mawr eraill, a phrin yw’r dystiolaeth eu bod yn debygol o ymestyn eu dewis o ieithoedd i gynnwys y ‘gynffon hir’ o ieithoedd llai, gan gynnwys y Gymraeg, yn y dyfodol agos.

Noddwyd yr Uned felly gan Lywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Technoleg Gymraeg a’r Cyfryngau Digidol ac S4C i weithredu’r project Seilwaith Cyfarthrebu Cymraeg i sicrhau nad yw defnyddwyr sydd â’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt yn cael eu gadael ar ôl mewn datblygiadau o’r fath.

Bydd yn gosod sylfeini amrediad o dechnolegau Cymraeg i’w defnyddio yn yr amgylcheddau hyn, gan gynnwys gwella’r adnoddau adnabod lleferydd Cymraeg yn ogystal â chyfieithu peirianyddol er mwyn cael y budd mwyaf allan o’r galluoedd a ddarperir drwy dechnolegau wedi’u seilio ar y Saesneg.

Bydd holl allbynnau’r project ar gael yma, o Borth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru. Bydd y project yn symbylu datblygiad meddalwedd a gwasanaethau Cymraeg newydd a allai gyfrannu at brif-ffrydio’r Gymraeg yn y cam nesaf o ryngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron.

Yn y cyfamser, mae angen eich help! Cyfrannwch eich llais drwy ein ap Paldaruo:

paldaruo

iTunes Google Play