1. Yn gyntaf mae’n rhaid mynd at dudalen gartref y Ganolfan APIs. Ar ôl cyrraedd y dudalen hon, cliciwch ar y botwm sy’n dweud Cofrestru ar frig y sgrîn ar yr ochr dde .
2. Ar y sgrîn gofrestru, byddwch yn gweld cyfarwyddiadau i’ch helpu yn y broses o gofrestru. Bydd arnoch angen enw defnyddiwr (h.y. yr enw yr hoffech ei ddefnyddio ar ein systemau), cyfrinair a chyfrif e-bost gweithredol.
3. Ar ôl llenwi’r blychau a gwasgu’r botwm Cofrestru ar waelod y sgrîn, byddwch yn derbyn e-bost yn awtomatig yn gofyn i chi ddilysu eich cyfrif. Cliciwch ar y ddolen sydd yn yr e-bost, ac yna defnyddiwch eich manylion cyfrif newydd (enw defnyddiwr a chyfrinair) i fewngofnodi.
4. Dylech yn awr weld sgrîn gartref eich cyfrif, gyda neges fawr yn eich croesawu. Dylai fod botwm bach gyda eich enw defnyddiwr arno yng nghornel uchaf ochr dde y sgrîn. Cliciwch ar hwn, ac yna’r botwm Gosodiadau i fynd at eich gosodiadau personol.
5. Nawr byddwch yn gallu dewis o blith sawl un o’n gwasanaethau sy’n defnyddio y system APIs. Dewiswch y rhaglen yr hoffech chi ei defnyddio, ac yna mewnbynnwch y wybodaeth angenrheidiol i’r meysydd ar y dudalen.
6. Bydd angen mewnbynnu URL eich gwefan, disgrifiad byr o’ch bwriad, ac yna ticio i gytuno gyda’r amodau a thelerau.
Cofiwch dicio’r blwch sy’n dweud “bydd yr allwedd API yn cael ei defnyddio ar wefan” os hoffech gysylltu a diogelu eich allwedd API gyda gwefan benodol.
Cliciwch ar y botwm cadw ar waelod y sgrîn, a bydd eich cod API newydd yn ymddangos yn y blwch priodol.
Llongyfarchiadau!