Ers ei lansio ym mis Mawrth, mae rhai codwyr a chwmnïau wedi bod yn defnyddio gwasanaeth yn y cwmwl API ar gyfer llefaru testun Cymraeg.
Yn aml iawn fodd bynnag, mae datblygwyr, mewn cwmnïau yn enwedig, eisiau defnyddio llefaru testun Cymraeg all-lein, a hynny gyda Microsoft Windows. O bryd i’w gilydd byddwn hefyd yn cael e-byst gan ddatblygwyr mewn ieithoedd eraill sydd â llai o adnoddau yn ein holi am help wrth ddefnyddio eu lleisiau eiu hunain gyda Microsoft Windows.
Mae ein llais llefaru testun Cymraeg yn bosib oherwydd System Synthesis Lleferydd Festival, sy’n wych. Serch hynny, nid yw Festival yn dda am gynnal Microsoft Windows o gwbl, fel mae datblygwyr y system eu hunain yn cyfaddef.
Rydym o’r farn y dylai fod yn bosib cael llais Cymraeg Festival yn Microsoft Windows. Felly, rydym ni wedi cyhoeddi’r data llais sy’n gwneud i Festival siarad Cymraeg ar GitHub yn ogystal â haciad ar yr ochr i greu project datrysiad Visual Studio sy’n galluogi i Festival redeg ar Windows gyda rhyngwyneb COM a .NET sylfaenol iawn.
Gellir dod o hyd i’r data llais yma: https://github.com/PorthTechnolegauIaith/llais_festival
Gallwch ddod o hyd i’n hymgais i gael ein llais llefaru testun Cymraeg yn rhedeg ar Windows ynghyd â’n cyfraniad i wella Festival ar Microsoft Windows yn y fan hon: https://github.com/techiaith/Festival_Windows
Heb yr adnoddau hyn dim ond ychydig o ddewisiadau, os oes yna rai o gwbl, sydd i alluogi defnyddio Cymraeg nac unrhyw lais Festival ar Windows. Y gobaith yw fod y cyfraniadau hyn o gymorth mawr ac y gellir eu gwella gyda chymorth cymunedau ffynonellau agored rhyngwladol.