Gwersi codio robot Cymraeg

Fel rhan o’n hymgais i hybu caffaeliad sgiliau cyfrifiadura ymysg siaradwyr Cymraeg, mae’r Uned Technolegau Iaith wedi bod yn datblygu cyfres o wersi cyfrifiadura wedi eu targedu at blant ysgolion cynradd.

Sylfaen yr adnoddau yma yw gwersi Prawf Turing y sefydliad robotRaspberry Pi. Cynhyrchwyd yr adnoddau hyn yn Saesneg yn wreiddiol ac yna fe’u rhyddhawyd ar wefan y sefydliad dan drwydded agored. Mae’r cwrs, sydd wedi’i strwythuro fel set o dair gwers, yn dysgu plant i godio gan ddefnyddio cyfarpar Raspberry Pi a’r iaith gyfrifiadurol Python. Defnyddia’r gwersi ddamcaniaeth enwog y Prawf Turing fel fframwaith i egluro egwyddorion sylfaenol cyfrifiadura, ac mae digon o weithgareddau ymarferol i gadw pethau’n ddifyr.

Ein cyfraniad ni fu cyfieithu’r cyfan i’r Gymraeg, a’i osod ar GitHub, fel bod modd i’r cyhoedd ei ddefnyddio a’i addasu at eu hamcanion eu hunain. Rydym hefyd wedi creu gwers newydd sbon sydd yn benodol ar gyfer plant Cymraeg eu hiaith. Mae’r wers arbennig hon yn cyflwyno plant at rai o adnoddau’r Porth Technolegau Iaith, gan gynnwys y llais testun-i-leferydd, yr adnodd adnabod iaith, Cysill Ar-lein a’r tagiwr rhannau ymadrodd, mewn ffordd sydd yn hwyl ac yn hawdd i’w ddeall.

tyrbinau 006
Plant Garndolbenmaen yn mwynhau eu gwers codio gyda Dewi Bryn Jones, Patrick Robertson a Rapiro y Robot.

Cafodd y wers hon ei threialu gan Dewi Bryn Jones a Patrick Robertson yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen ym mis Mawrth eleni, a bu’n llwyddiant mawr. Gwelwch y cofnod blaenorol hwn i weld fideo a grëwyd gan y plant, er mwyn dysgu mwy am hwyl a helynt y diwrnod hwnnw.

Mae’r adnoddau i gyd ar gael ar GitHub dan drwydded agored yma. Mae’r rhain yn cynnwys y tair gwers gwreiddiol a gyfieithwyd, y wers arbennig ynglŷn â chymreigio’r robot a hefyd canllawiau paratoi ar gyfer athrawon a myfyrwyr.

 

Gweler strwythur y wers isod:

Gwersi

A gellir cyrraedd y wers Gymraeg arbennig yma: