Un o gydrannau pwysicaf y gwirydd sillafu a gramadeg Cysill yw’r tagiwr rhannau ymadrodd. Yn wir, mae tagiwr yn gydran sylfaenol mewn unrhyw sefyllfa ble mae disgwyl i gyfrifiadur ddadansoddi a deall testun.
Gall ein tagiwr ni adnabod geiriau Cymraeg – hyd yn oed pan fydd y gair hwnnw wedi ei dreiglo, neu pan fydd berf wedi ei rhedeg – gan nodi’r rhan ymadrodd. Mae’r wybodaeth hon yn amgyffred amrediad eang o nodweddion Cymraeg y gall y tagiwr eu hadnabod e.e. enwau ac ansoddeiriau, y math o dreiglad, ac yn y blaen.
Er enghraifft mae’r tagiwr yn trosi’r testun “Mae hen wlad fy nhadau” i :
mae/VBF/- hen/ADJP/- wlad/NF/TM fy/PRONOUN/- nhadau/NPL/TT
Y tagiwr ymadrodd yw’r gwasanaeth cyntaf sydd ar gael o’n canolfan APIs newydd ar-lein. Rydym yn falch fod y tagiwr nawr ar gael i bawb ei ddefnyddio, a hynny ar delerau hael, yn rhad ac am ddim.
Ewch i API Tagiwr Rhannau Ymadrodd am ragor o wybodaeth.