Mae chwyldro ar droed yn y byd cyfieithu. Mae cyfieithwyr yn troi yn ôl-olygwyr wrth i’r peiriant gyfieithu’r drafft cyntaf, ac i olygydd dynol wedyn ei fireinio drwy ei ôl-olygu. Dim ond cyfieithu llenyddol a sensitif iawn fydd yn osgoi’r dynged hon. Mae hyn yn cael ei yrru gan yr angen i gyfieithu swmp aruthrol o waith, mewn amser byr ac am bris rhesymol.
Mae’r Uned Technolegau Iaith wedi bod yn paratoi am hyn drwy ddatblygu cyfarpar cyfieithu peirianyddol Cymraeg<>Saesneg. Bellach rydym yn ei ddarparu fel adnodd drwy’r Porth Technolegau Iaith. Gan ddefnyddio’r adnodd hwn bydd modd i unrhyw un wneud y canlynol:
- cynnal a bod yn berchen ar eu system cyfieithu Cymraeg<>Saesneg nhw eu hunain
- defnyddio eu corpora cyfochrog eu hunain i greu ac addasu peiriannau cyfieithu arbenigol
Er bod arfau cyfieithu peirianyddol ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg eisoes ar gael drwy wasanaethau cwmnïau mawr megis Google a Microsoft, mae anfanteision pendant o ran eu defnydd. Drwy rannu ein hadnoddau cyfieithu peirianyddol yn rhydd, yn hael ac yn rhwydd, rydym yn gobeithio bod o fudd i’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru, egino a magu cymuned o ymarferwyr cyfieithu peirianyddol, ac osgoi ddibyniaeth ar sefydliadau rhyngwladol.
Buom yn esbonio’n syniadau yng nghynhadledd TILT ym Mangor ym mis Mehefin llynedd. Dyma’r sleidiau:
MATERION ANSAWDD
Hyd yn hyn nid yw cyfieithiadau sydd wedi’u cynhyrchu gan beiriant yn berffaith rhwng unrhyw bâr o ieithoedd. Yn y gorffennol, cafwyd penawdau yn y wasg oherwydd camgyfieithiadau chwerthinllyd neu rai sydd wedi peri embaras mawr, a gallant hefyd beri i gwrs cyfiawnder gael ei wyrdroi. Mae hyn yn rhoi enw drwg i gyrff sy’n ceisio arbed arian drwy ddefnyddio cyfieithu peirianyddol. Fodd bynnag, mae’n dderbyniol defnyddio cyfieithu peirianyddol law yn llaw gydag ôl-gyfieithu dynol, ac mae modd ymgorffori hyn o fewn y llif gwaith cof cyfieithu. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau y defnyddir y meddalwedd cyfieithu peirianyddol hwn yn y dull priodol ddisgrifwyd yma, gan gynnwys ôl-gyfieithu priodol ac ystyrlon, sy’n osgoi llesteirio delwedd y diwydiant cyfieithu a’r Gymraeg.
Mae nodyn cyngor llawn yma: