Rydyn ni wrthi’n datblygu adnabod lleferydd Cymraeg fel rhan o’n project Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg a’i rannu yn agored ac am ddim ar y Porth Technolegau Iaith gyda datblygwyr meddalwedd ac apiau Cymraeg eraill.
Heddiw rydyn ni’n falch o fedru rhannu’r fersiynau cyntaf cychwynnol o’n system adnabod lleferydd Cymraeg.
Julius Cymraeg (julius-cy)
Mae’r ddarpariaeth newydd wedi’i chreu drwy ddatblygu a chynhyrchu ffeiliau arbennig sydd yn addasu meddalwedd adnabod lleferydd cod agored cyffredinol o’r enw Julius i allu adnabod Cymraeg yn lle Saesneg a Japanëeg.
Mae’r fersiwn cyntaf i’w ryddhau yn galluogi Julius i adnabod cwestiynau a gorchmynion Cymraeg syml, penodol ynghylch y tywydd, newyddion, amser a cherddoriaeth. E.e:
- “BETH YDY’R TYWYDD HEDDIW?”
- “BETH YW TYWYDD YFORY?”
- “BETH YW’R NEWYDDION?”
- “FAINT O’R GLOCH YDY HI?”
- “CHWARAEA GERDDORIAETH CYMRAEG”
Bydd fersiynau o Julius Cymraeg yn y dyfodol yn ceisio cynorthwyo nodweddion arddweud ac adnabod lleferydd mwy rhydd.
Mae ein haddasiadau ar gyfer Cymreigio Julius, yn ogystal â sgriptiau i hwyluso sefydlu popeth yn hwylus ar eich gyfrifiadur ar gael yn rhydd, yn agored ac am ddim ar GitHub.
Ewch i:
https://github.com/techiaith/julius-cy
Mae’n wych! Sut mae julius-cy yn gweithio?
Mae’r dudalen ‘Cefndir’ yn esbonio popeth am y fersiwn cyntaf :
https://github.com/techiaith/julius-cy/blob/master/CEFNDIR.md
Ar ôl darllen hwn bydd modd i chi ychwanegu testunau a chwestiynau eich hunain i Julius-cy!
Hmm. Dydy o ddim yn gweithio’n dda iawn i mi. Sut fedra i helpu?
Fersiynau cynnar yw’r modelau acwstig sydd gennym ni hyd yn hyn, felly mae’n bosib na fydd julius-cy yn adnabod lleisiau rhai unigolion yn llwyddiannus.
Os nad ydych chi eisoes wedi cyfrannu eich llais i’n Corpws Lleferydd Paldaruo, yna defnyddiwch ein ap Paldaruo (http://techiaith.bangor.ac.uk/paldaruo) ar unrhyw ddyfais iOS neu Android er mwyn i ni wella’r modelau acwstig gyda’ch llais chi.