Neu’r gallu i greu llais synthetig Cymraeg eich hunan….
Fel rhan o’n gwaith ar broject Macsen, rydyn ni’n creu offer ar gyfer cynhyrchu lleisiau synthetig Cymraeg sy’n swnio’n naturiol. Mae’r offer yn rhoi dull cyflym a hawdd o baratoi promptiau, a recordio llais unigolyn yn eu darllen, gan ddefnyddio gwybodaeth am seiniau’r Gymraeg, er mwyn adeiladu llais synthetig Cymraeg sy’n swnio’n debyg iawn i lais yr unigolyn a recordiwyd.
Dyma enghreifftiau o leisiau dau aelod o dîm techiaith wedi’u syntheseiddio’r gyda’r offer newydd :
Gwryw:
Benyw:
Cafodd y tîm gyfle i roi hyn ar brawf yn ddiweddar yn nigwyddiad SeneddLab 2017 gan adeiladu llais newydd mewn un awr i roi gwybodaeth lafar am Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe roeson nhw’r enw ‘RoboLlywydd’ arno. Dipyn bach o hwyl oedd galw’r llais newydd yn ‘RoboLlywydd’, ond mae’n dangos beth sy’n bosib o safbwynt ddefnyddio lleisiau gwahanol unigolion o fewn cynorthwyydd personol digidol eich hunan. Mae’r fideo canlynol yn sôn rhagor am hyn (yn enwedig ar ôl y pumed munud a hanner) :
Rydyn ni wedi defnyddio system oedd eisoes ar gael yn god agored o’r enw MaryTTS ac mae modd i chi ei ddefnyddio ar gyfer y Gymraeg o’r gronfa GitHub ganlynol: