Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y gynhadledd Trwy Ddulliau Technoleg, ac i bawb a gyflwynodd ac a gyfrannodd eu hamser a’u hegni i greu diwrnod gwerth chweil.
Ond hoffem ddiolch yn arbennig i blant Ysgol Garndolbenmaen.
Daethant i adrodd am eu profiad o ddefnyddio’r adnoddau llais synthetig mewn gwersi diweddar ar godio meddalwedd Cymraeg gyda’r Raspberry Pi. Roeddent wedi paratoi fideo arbennig ar gyfer y gynhadledd yn disgrifio eu profiadau, ond yn anffodus cafwyd problemau technegol pan geisiwyd ei chwarae. Felly (gydag ymddiheuriadau am hynny), dyma fideo llawn plant Ysgol Garndolbenmaen o’r diwedd:
Adroddodd y plant hanes y gwersi, lle dysgon nhw sgiliau craidd codio gan ddefnyddio cynllun gwers codio prawf Turing Cymraeg gan y Raspberry Pi Foundation yn wreiddiol, ond yna wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg gan yr Uned Technolegau Iaith ac yna’i ehangu gydag adnoddau’r Porth Technolegau Iaith – gweler : https://github.com/PorthTechnolegauIaith/turing-test-lessons
Cafodd y plant hefyd gyfarfod gydag un gwestai hynod o arbennig – Is-ganghellor Prifysgol Bangor!
Eglurodd y plant i’r Is-ganghellor, yr Athro John Hughes, eu bod wedi mwynhau yn arw cael gweithio ar y project, ac wedi dysgu amryw o sgiliau defnyddiol. Dywedodd rhai hyd yn oed yr hoffent ddod yn godwyr proffesiynol yn y dyfodol!
Cafodd y plant hefyd gyfle i sgwrsio gyda rhai o’r siaradwyr gwadd, oedd wedi teithio o bob rhan o’r byd er mwyn mynychu’r gynhadledd. Isod, o’r chwith i’r dde, gweler John Judge o Iwerddon, Kepa Sarasola o Wlad y Basg a Dwayne Bailey o Dde Affrica (ond sy’n byw yn Llundain ar hyn o bryd).
Dyma’r plant yn cyfarfod y siaradwyr gwadd, yn ogystal a’r aelodau rheini o’r Uned Technolegau Iaith a weithiodd ar broject y Porth Technolegau Iaith, heb anghofio Rapiro, y robot bach sy’n siarad Cymraeg:
Bu’r plant yn adrodd eu hanes hefyd i Radio Cymru
Post Cyntaf : http://www.bbc.co.uk/programmes/b053hsb6 – 1:16:25 i fewn
Ac i Newyddion BBC ar S4C :
http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/31833000
Yn ogystal, bu lot o sylw ar Trydar :
Codiwyr ifanc Ysgol Garndolbenmaen wedi datblygu Côd Turing gyda #Python ar #RaspberryPi #techiaith @techiaith pic.twitter.com/4RPIjerLiV — Gareth Morlais (@melynmelyn) March 6, 2015
First language technology meeting I’ve ever been to with a presentation from a primary school. #techiaith — Colin Batchelor (@my_disposition) March 6, 2015
Chwarae teg i plant Ysgol Garndolbenmaen am dôd i gynhadledd @techiaith. Roeddwn i angen gofyn iddyn esbonio cwpl o pethau i fi. #techiaith — Phil Stead (@pjstead) March 6, 2015
Raspberry Pi yn gweithio o’r diwedd, diolch i fyfyrwyr Ysgol Garndolbenmaen am fy ysbrydoli heddiw yn #techiaith pic.twitter.com/A2qAont1pf — Carl Morris ☺☻ (@carlmorris) March 6, 2015
Plant Ysgol Garndolbenmain wedi cael gwersi codio Cymraeg gan Uned Technolegau Iaith @canolfanbedwyr. Datblygwyr y dyfodol! #techiaith
— Cynog Prys (@cynog_prys) March 6, 2015