Yn ystod 2015-2016 rydym wedi ceisio datblygu adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron. Gweler – Cychwyn ar Siarad i’ch cyfrifiadur , Tuag at ‘Siri’ Cymraeg
Mae’r dechnoleg yma’n dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r llais dynol gael ei ddefnyddio mewn systemau holi ac ateb ar ffonau symudol a thabledi, systemau rheoli teclynnau fel setiau teledu a robotiaid, a systemau arddweud. Os na fydd modd defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yr iaith yn cael ei chau allan fwyfwy o’r byd digidol, a siaradwyr Cymraeg yn gorfod troi i’r Saesneg.
Er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer y dechnoleg newydd yn Gymraeg rydyn ni wedi cynhyrchu prototeip o system cwestiwn ac ateb lle mae cynorthwyydd personol o’r enw ‘Macsen’ yn gallu ateb cwestiynau llafar, er enghraifft ‘beth yw’r newyddion?’ neu ‘beth yw’r tywydd?’.
Dyma fideo i gyflwyno ac i arddangos Macsen yn gweithio ar gyfrifiadur bach Raspberry Pi:
Mae’r holl god ac adnoddau ar gael ar GitHub fel bod unrhyw un yn gallu ehangu a datblygu system ‘Macsen’ eu hunain. Prif dudalen ‘Macsen’ ar y we er mwyn gwybod sut i gychwyn arni yw:
http://techiaith.cymru/macsen
Bydd ein gwaith ar adnabod lleferydd ac ar adnoddau agored ar gyfer ‘Macsen’ yn parhau. Cysylltwch â ni os oes gennych chi, fel cwmni meddalwedd, clwb codio, ysgol neu fel haciwr cyffredinol unrhyw ddiddordeb eu cynnwys o fewn projectau meddalwedd eich hunain.
Datblygwyd ‘Macsen’ o fewn y project ‘Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg’ a ariannwyd gan Llywodraeth Cymru ac S4C.