Vocab

Mae’r ategyn Vocab yn adnabod geiriau o eiriaduron megis Cysgair a’r Termiadur Addysg yn nhestun eich gwefan, ac yn eu tanlinellu. Ar ôl gosod y rhaglen, bydd modd i ddefnyddwyr weld cofnodion geiriadurol llawn drwy symud y llygoden dros eiriau sydd wedi’u tanlinellu.

Cyfarwyddiadau gosod


Fel ategyn Cysill, mae’n hawdd iawn gosod ategyn Vocab ar eich gwefan (D.S. rhaid gosod eich allwedd API bersonol chi yn lle “EICH_ALLWEDD_API”. Cofrestrwch am allwedd API ar gyfer y cyfarwyddiadau llawn).
- Ychwanegwch y ddau dag
<script>
canlynol at god tudalen eich gwefan:<script type='text/javascript'> var vocabConfig = { apikey : 'EICH_ALLWEDD_API', language : 'cy', start : 'body' }; </script> <script type='text/javascript' language='javascript' src='http://api.techiaith.org/vocab/ui/vocab/vocab.nocache.js'></script>
- Ychwanegwch
<div>
gyda class=vocab_button unrhyw le o fewn eich tudalen:
<div class="vocab_button"></div>