Cynnyrch
Mae’r Porth Technolegau Iaith Genedlaethol Cymru yn gartref i gynnyrch digidol gorffenedig wedi eu datblygu gan Yr Uned Technolegau Iaith.
Mae’r technolegau hyn yn addas i bawb, o’r cynorthwyydd digidol Cymraeg, Macsen i’r Trawsgrifiwr, sy’n trawsgrifio Cymraeg llafar i destun, gyda’i gilydd, mae’r cynnyrch yn cefnogi datblygiad ac integreiddiad technolegau iaith Gymraeg. Mae modd dysgu mwy amdanynt isod.
Macsen
Cynorthwyydd digidol personol Cymraeg tebyg i Alexa. Ar gael ar-lein ac fel ap ar ddyfeisiadau iOS ac Android.
Lleisiwr
Casgliad o leisiau synthetig testun-i-leferydd dwyieithog, Cymraeg a Saesneg. Mae modd hefyd i chi gynhyrchu eich llais eich hun.
Y Trawsgrifiwr
Rhaglen feddalwedd sy’n trawsgrifio lleferydd Cymraeg yn destun, defnyddiol ar gyfer creu isdeitlau fideos.
Ap Geiriaduron
Mae’r Ap Geiriaduron yn caniatáu ichi chwilio geiriadur cyffredinol Cysgair, yn ogystal â nifer o eiriaduron terminoleg safonol.
Ategion
Mae rhai adnoddau’r Porth Technolegau Iaith ar gael ar ffurf ategyn i’w gosod o fewn eich gwefan. Mae’r rhain yn cynnwys Ategyn Cysill Ar-lein, Cymreigio Porwr ac Geiriaduron Termau. Mae modd dysgu mwy amdanynt yma.