Caiff y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol ei ddarparu gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor. Bwriad y Porth yw darparu un man canolog i roi gwybod am adnoddau a digwyddiadau perthnasol, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Technolegau Iaith yn cynnwys popeth lle mae cyfrifiaduron a dyfeisiau electronig yn ceisio gweithio gyda ieithoedd dynol. Gall hyn gynnwys adnabod lleferydd (lle mae pobl yn siarad a’r cyfrifiadur yn ymateb neu’n teipio’r testun), testun i leferydd (lle mae’r cyfrifiadur neu’r ddyfais yn siarad yr hyn sydd mewn testun ysgrifenedig, a hynny mewn llais synthetig), a chyfieithu peirianyddol (lle mae’r peiriant yn cyfieithu rhwng dwy neu fwy o ieithoedd, heb fod angen help cyfieithydd dynol). Mae hefyd yn cynnwys Prosesu Iaith Naturiol (NLP), lle mae’r cyfrifiadur yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i ddadansoddi a deall iaith.

Os oes diddordeb gennych chi yn y meysydd hyn, beth am ymuno yn ein Rhwydwaith Genedlaethol Technolegau Iaith Cymraeg?

Os ydych chi’n chwilio am restr o’r holl adnoddau, offer, gwasanaethau a chynnyrch sydd ar gael ar gyfer ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg, mae Grid Ieithoedd Ewrop (ELG) yn ceisio casglu’r rheiny at ei gilydd.

Gwelwch yma am ragor o wybodaeth am yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, ac mae rhestr o’r cyhoeddiadau ymchwil i’w gweld yma.

Cysylltwch â’n Lladmerydd Technolegau Iaith, Stefano Ghazzali, s.ghazzali@bangor.ac.uk os hoffech chi gydweithio gyda ni ar unrhyw brojectau yn y maes, neu os hoffech chi unrhyw fanylion pellach.