Polisi preifatrwydd ap Techiaith TTS

Diweddarwyd ddiwethaf 10/09/2026

Mae Prifysgol Bangor (“ni” neu “ein”) yn parchu preifatrwydd ei defnyddwyr (“defnyddiwr” neu “chi”). Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio pa wybodaeth a drinnir pan ddefnyddiwch raglen testun-i-leferydd Techiaith TTS ar gyfer iOS, iPadOS, macOS, Android a Windows (y “Rhaglen”). Dogfen fer yw hi, oherwydd nad yw’r Rhaglen yn trin y nesaf peth i ddim. Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn yn ofalus. OS NAD YDYCH YN CYTUNO Â THELERAU’R POLISI PREIFATRWYDD HWN, PEIDIWCH Â DEFNYDDIO’R RHAGLEN.

Rydym yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm. Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newidiadau drwy ddiweddaru’r dyddiad “Diweddarwyd ddiwethaf” uchod. Fe’ch anogir i adolygu’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd.

Nid yw’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i siop y trydydd parti lle gosodwch y Rhaglen (Google Play neu App Store Apple), nac i dudalen lawrlwytho gosodwr Windows, a all gasglu a defnyddio data amdanoch o dan eu telerau eu hunain. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddata a gesglir gan drydydd parti o’r fath.

Casglu eich gwybodaeth

Data personol

Nid yw’r Rhaglen yn casglu unrhyw ddata personol o gwbl. Trosir pob gair yn lleferydd ar eich dyfais eich hun gan fodel llais niwral sy’n rhedeg yn lleol. Nid oes gan y Rhaglen unrhyw god rhwydwaith; ar Android nid yw’n gofyn am ganiatâd rhyngrwyd, ac ar Windows nid yw’r injan lleferydd na’i hap cydymaith yn gwneud cysylltiadau rhwydwaith. Yn benodol, nid ydym yn casglu, storio, trosglwyddo na rhannu’r testun a deipiwch nac a ofynnir gan apiau eraill i’r Rhaglen ei lefaru, y sain a gynhyrchir, dynodwyr dyfais neu hysbysebu, dadansoddeg defnydd, adroddiadau chwalu, nac eich lleoliad, cysylltiadau, lluniau, mewnbwn meicroffon nac unrhyw ddata dyfais arall. Nid ydym yn rhedeg unrhyw weinyddion ar gyfer y Rhaglen, nid oes cyfrifon defnyddwyr, ac nid oes gwasanaethau dadansoddeg, hysbysebu nac adrodd chwalu trydydd parti.

Testun y gofynnwch i’r Rhaglen ei lefaru

Pan ddewiswch Techiaith TTS fel llais system, mae apiau eraill fel VoiceOver, TalkBack, Narrator, NVDA, Speak Screen, Select to Speak, Read Aloud yn Word ac apiau darllen yn anfon testun iddi i’w lefaru. Cedwir y testun hwnnw yn y cof am gyhyd ag y mae’n ei gymryd i gynhyrchu’r sain yn unig. Nid yw byth yn cael ei ysgrifennu i log, ei gadw i ffeil na’i drosglwyddo.

Beth sy’n aros ar eich dyfais

Mae’r Rhaglen yn storio dau beth yn ei storfa breifat ei hun: y llais a ddewisoch ac iaith eich rhyngwyneb, er mwyn cofio eich dewis; a’r model llais a’r geiriaduron ynganu, sydd wedi’u bwndelu gyda’r Rhaglen ac yn cael eu dadbacio ar y rhediad cyntaf er mwyn i’r lleferydd weithio all-lein. Ar Windows gosodir y model llais a’r geiriaduron ochr yn ochr â’r rhaglen, a chofrestrir y lleisiau gyda Windows er mwyn i raglenni eraill allu dod o hyd iddynt. Tynnir y cyfan pan ddadosodwch y Rhaglen. Nid oes dim yn gadael eich dyfais.

Defnyddio eich gwybodaeth

Gan nad ydym yn cadw unrhyw wybodaeth amdanoch, nid ydym yn gwneud unrhyw ddefnydd ohoni. Mae’r Rhaglen yn ysgrifennu mesuriadau amseru lleferydd i log y system weithredu ei hun i’n helpu i gadw’r lleisiau’n gyflym. Rhifau amseru yn unig sydd yn y cofnodion hyn, byth y testun a lefarir. Maent yn aros ar eich dyfais o dan eich rheolaeth chi, a ni’n eu gweld ond os anfonwch log atom yn fwriadol.

At ddibenion cyfrif nifer y bobl sy’n defnyddio’r Rhaglen, rydym yn cyfrif nifer y lawrlwythiadau a’r diweddariadau a adroddir gan Google Play Store ac App Store Apple. Nid ydym yn casglu manylion personol defnyddwyr.

Plant

Mae’r Rhaglen yn addas i bob oed ac nid yw’n casglu data gan unrhyw un, gan gynnwys plant.

Diogelwch eich gwybodaeth

Gan nad yw’r Rhaglen yn trosglwyddo dim ac nad yw’n storio unrhyw wybodaeth bersonol, nid oes unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch i ni ei diogelu, ei datgelu, ei chywiro na’i dileu. Am ganllawiau diogelu data Prifysgol Bangor yn fwy cyffredinol, gweler tudalennau cydymffurfiaeth gyfreithiol y Brifysgol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau am y Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni:

Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Cymru, DU

techiaith@bangor.ac.uk