Mae’r ategyn hwn yn eich galluogi chi i osod unrhyw gyfuniad o eiriaduron termau’r Porth Termau o fewn eich gwefannau drwy ychwanegu’r llinell ganlynol o god i’w tudalennau HTML

D.S. rhaid gosod allwedd API eich wefan chi yn lle <EICH ALLWEDD API / YOUR API KEY>. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ac i dderbyn allwedd API. Bwriad yr allwedd API yw cysylltu eich dewis o eiriaduron gyda URL eich gwefan.
Mae’r ategyn yn caniatáu i chi leoli yn hyblyg elfennau rhyngwyneb eich geiriadur termau o fewn eich gwefan trwy ddefnyddio tagiau
penodol.
blwch a botwm chwilio
Ychwanegwch
o fewn corff yr HTML er mwyn ychwanegu’r blwch a botwm chwilio:

canlyniadau chwilio
Ychwanegwch y
canlynol o fewn corff yr HTML i leoli lle dylid cynnwys canlyniadau chwilio:

rhestr prifeiriau
Ychwanegwch y
canlynol o fewn corff yr HTML i leoli lle dylid cynnwys rhestr prifeiriau:

Y Wyddor
Ychwanegwch y
canlynol o fewn corff yr HTML i leoli lle dylid cynnwys y wyddor er mwyn dewis llythyren gyntaf prifeiriau:

Ychwanegwch y
canlynol o fewn corff yr HTML i leoli lle dylid cynnwys dewis iaith gyda’r wyddor a ddefnyddir o fewn

Cysylltwch â ni am fwy o fanylion: techiaith@bangor.ac.uk