Mae’r gwasanaeth API cyfieithu peirianyddol yn caniatáu i ddefnyddwyr derbyn cyfieithiadau o destunau Saesneg neu Cymraeg heb angen gosod meddalwedd arbennig ar eu cyfrifiaduron. Mae’n wasanaeth hawdd i’w ddefnyddio ac yn rhad ac am ddim.
Ewch at ein canolfan gwasanaethau APIs er mwyn cofrestru a derbyn allwedd API er mwyn gallu defnyddio’r gwasanaeth. Dyma gyfarwyddiadau ar sut mae derbyn allwedd API.
Argymhellir rhaglen barhaus o hyfforddiant i ddiweddaru gwybodaeth y cyfieithydd am ddatblygiadau technolegol newydd, fel rhan o raglen datblygiad proffesiynol y cyfieithydd, a bydd hyn yn gymorth i gael y gorau allan o’r dechnoleg ddiweddaraf.
Gweler rhagor yma : Nodyn Cyngor Ar Gyfieithu Peirianyddol ac Offer Cyfieithu ar gyfer Rheolwyr a Chomisiynwyr Cyfieithu
Rhagor am adnoddau cyfieithu : Cyfieithu – Cyflwyniad
Am fwy o wybodaeth benodol ar sut i ddefnyddio’r gwasanaeth, ac am god enghreifftiol, dilynwch y ddolen isod at dudalennau yn GitHub :