Adnoddau lleoleiddio

Map o Gymru gyda delweddau cartwnaidd o bobl arni. Mae'r bobl wedi eu cysylltu â'i gilydd gan ddelweddau sydd yn portreadu gwahanol ffurf o gyfathrebu

Mae lleoleiddio yn cynnwys nid yn unig cyfieithu testunau rhyngwynebau meddalwedd ond hefyd trosi unedau amser, arian, talfyriadau ac ati.

Map o Gymru gyda delweddau cartwnaidd o bobl arni. Mae'r bobl wedi eu cysylltu â'i gilydd gan ddelweddau sydd yn portreadu gwahanol ffurf o gyfathrebu

CLDR Cymraeg

Ar y cyd gyda gwirfoddolwyr fel Eleri James a chwmnïau fel Google, mae’r Uned yn helpu datblygu adnodd safonol rhyngwladol y CLDR (Common Locale Data Repository) gan yr Unicode Consortium. Defnyddir systemau cyd-weithio ar-lein ac mae llawer o drafod a phleidleisio cyn pob diweddariad o’r CLDR Cymraeg.

Defnyddir y CLDR Cymraeg i helpu Cymreigio meddalwedd cwmnïau mawr sy’n cynnwys Google, Apple (e.e. enwau misoedd Cymraeg yn iOS) a Microsoft. Fe’i defnyddir hefyd fel adnodd gan y gymuned cod agored i Gymreigio pecynnau megis LibreOffice a Firefox.

Mae’r fersiwn Cymraeg yn datblygu ac yn cael ei wella’n gyson. Er bod y data yn cael eu rhyddhau fel fersiynau sefydlog, mae modd gweld y fersiwn diweddaraf gan y gwirfoddolwyr a’r Unicode Consortium yma.

Rheolau lluosog

Mae rhai pecynnau meddalwedd yn caniatáu defnyddio rheolau ar gyfer elfennau lluosog o fewn cyfieithiadau.

Mae’r wybodaeth am y lluosogion yn y Gymraeg o fewn y CLDR yn gweithio ar gyfer llawer o sefyllfaoedd ond nid ar gyfer ‘blwyddyn’. Mae’r tabl isod yn dangos hyn:

Unicode %n %n minute(s) %n year(s)
zero 0 0 munud 0 blwyddyn
one 1 1 munud 1 flwyddyn
two 2 2 funud 2 flynedd
many

3

6

3 munud

6 munud

3 blynedd

6 blynedd

few 4 4 munud 4 blynedd
other

5

7

ac ati

5 munud

7 munud

ac ati

5 mlynedd

7 mlynedd

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.