Beth sydd y tu ôl i Trawsgrifiwr Byw, a pham nad cyfieithydd ar y pryd mohono
Mae’r Trawsgrifiwr Byw yn ap bwrdd gwaith sy’n gwrando ar Gymraeg llafar ac yn ysgrifennu’r hyn a glyw ar y sgrin wrth i chi siarad, gan ddangos cyfieithiad Saesneg o dan bob brawddeg bron yn syth wedyn. Mae’n rhedeg ar Windows, Mac a Linux, mae’n rhad ac am ddim, ac mae popeth yn digwydd ar eich cyfrifiadur chi. Nid yw’r sain yn gadael y peiriant, nid oes angen creu cyfrif, a gall y fersiwn rydyn ni’n ei dosbarthu wedi ei phecynnu weithio heb unrhyw gysylltiad â’r rhyngrwyd o gwbl, rhywbeth y gofynnodd ysgolion amdano ar gyfer arholiadau a rhwydweithiau caeedig. Gallwch ei lawrlwytho o GitHub.
Sylwch ar yr ail a’r drydedd frawddeg: trodd “yn syth bin” yn “straight bin”, a cafodd “Saesneg”, a ynganwyd fel “Sysnag”, ei thrawsgrifio fel y cafodd ei ynganu a throi’n “sysnagic” o’i gyfieithu. Mae’r esboniad yn dilyn isod.
Mae’n hawdd galw peth fel hyn yn “gyfieithu ar y pryd”, ac efallai ein bod ni wedi bod yn euog o wneud hynny hefyd. Ond mae cyfieithu ar y pryd yn grefft â hanes hir ac yn broblem ymchwil â diffiniad manwl. Mae’n werth felly bod yn onest ynghylch ble’n union y mae’r ap bach hwn sy’n gweithio ar liniadur yn sefyll o’i gymharu â hynny. Dyna bwrpas yr erthygl hon felly: rhoi rhyfwfaint o esboniad am beth sy’n digwydd y tu ôl i’r sgrin ac archwilio pam fod Cymraeg llafar yn her arbennig i beiriannau, pam fod cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg a chyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg yn heriau gwahanol, a holi beth sydd ei angen i fynd ymhellach. Y nod arall yw dweud yn blaen nad disodli cyfieithwyr ar y pryd yw’r nod, ond cynnig dewis amgen.
Beth sy’n digwydd dan y boned
Dau fodel bach sy’n pweru’r ap, a’r ddau wedi’u hyfforddi gennym ni yn yr Uned.
Y cyntaf yw model adnabod lleferydd Kaldi, wedi’i becynnu gennym ar gyfer fframwaith Vosk. Mae’n 120 MB o ran ei faint, ac fe’i hyfforddwyd ar oddeutu 159 awr o Gymraeg lafar. Mae’n rhedeg ar un craidd prosesu ac yn prosesu pob eiliad o sain mewn tua saith canfed o eiliad. Mae’n cynnig trawsgrifiad dros dro wrth i chi siarad ac yn ei drosi’n frawddeg orffenedig gywirach pan fydd saib yn y siarad. Mae ganddo eirfa sefydlog o 62,392 o eiriau: does dim modd iddo ysgrifennu gair nad yw yn y rhestr honno, boed hwnnw’n enw person, yn enw lle neu’n air Saesneg, ac os bydd hynny’n codi wrth iddo drawsgrifio, bydd yn rhoi’r gair Cymraeg sy’n swnio agosaf yn ei le. Nid yw’n gosod atalnodi na phriflythrennau yn y testun chwaith.
Yr ail fodel yw model cyfieithu peirianyddol Marian a gywasgwyd gennym i faint o 21 MB drwy ddefnyddio meddalwedd project Bergamot, sef y dechnoleg sy’n cyfieithu tudalennau gwe o fewn Firefox heb rannu dim gyda’r cwmwl. Cafodd y model ei hyfforddi ar 11.8 miliwn o barau o frawddegau Cymraeg–Saesneg ysgrifenedig: testunau o wefannau Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus, Cofnod y Senedd, cofion cyfieithu prifysgol a bwrdd iechyd, a thestun o’r we. O fesur yr amser prosesu a ddefnyddir gan y modelau fe ddysgwn y canlynol: mae cyfieithu brawddeg yn cymryd rhwng 10 a 35 milfed o eiliad; mae aros i’r frawddeg orffen cael ei llefaru yn cymryd rhwng hanner eiliad ac ugain eiliad. Nid cyflymder y cyfrifiadur yw’r oedi, felly, ond yr angen i aros am ddiwedd y frawddeg cyn mynd ati i’w chyfieithu. Yn nhermau’r proffesiwn, cyfieithu olynol fesul brawddeg a wna’r ap, nid cyfieithu ar y pryd. Yn nhermau’r llenyddiaeth ymchwil, “cascêd” ydyw o adnabyddwr ffrydiol a chyfieithydd sy’n gweithio ar frawddegau cyfan, mewn un cyfeiriad, ar un sianel, o leferydd i destun. Nid beirniadaeth yw hynny (gofynnodd defnyddwyr am drawsgrifiad darllenadwy yn gyntaf), ond mae’n ddisgrifiad manwl o’r hyn ydyw a’r hyn nad yw.
Her 1: y Gymraeg fel y caiff ei siarad
Mae’r Gymraeg sydd ar y we ac mewn dogfennau dwyieithog yn Gymraeg ysgrifenedig, safonol a gweddol ffurfiol ei naws, sydd gan amlaf wedi’i golygu gan awdur neu gyfieithydd proffesiynol. Nid honno, o reidrwydd, yw’r Gymraeg y mae meicroffonau yn eu clywed. Dyma linell nodweddiadol o Fanc Trawsgrifiadau Bangor, ein casgliad agored o leferydd naturiol:
post industrial yym a gyda yy dwi’n ca’l deud
Yno, mewn un llinell fer ceir cyfnewid cod i’r Saesneg, dwy enghraifft o betruster, ffurfiau llafar wedi’u cwtogi (“ca’l”, “dwi”) ac ymadrodd sydd heb ddiwedd naturiol iddi. Gallwch ychwanegu at hynny ailddechrau ar ganol gair (“o- o’n i’n disgwl”), sillafiadau tafodieithol (“gwbod”, “petha”, “dwetha”, “wsos”), treigladau nad ydynt bob amser yn dilyn rheolau llyfrau gramadeg, a brawddegau sy’n rhedeg i’w gilydd heb unrhyw atalnod i ddangos ble mae un yn gorffen a’r nesaf yn dechrau. Mae natur heriol y dasg sydd gerbron y modelau hyn yn eithaf clir.
Fe welsoch chi’r sillafu tafodieithol ar waith yn nhrydedd linell y clip uchod. Dywedodd y siaradwr “Saesneg” fel y caiff ei ynganu yn y gogledd: “Sysnag”, Ysgrifennodd yr adnabyddwr “sysnag”, yn union fel y’i clywodd. Nid camgymeriad yw hynny ar ei ran: trawsgrifiadau air-am-air a’i dysgodd, ac yn y rheini mae’r un gair yn ymddangos fel “sysnag”, “sysneg” a “susnag” yn ogystal â “saesneg”, yn ôl clust pob trawsgrifiwr, gan mai arddull verbatim a ddyefnyddiwyd i drawsgrifio’r data hyfforddi gwaelodol.
Nid un ffordd o ysgrifennu’r Gymraeg lafar sydd, chwaith. Yn y byd ysgrifenedig, canllawiau arddull cyffredinol sydd, nid un safon manwl, perffaith, ac mae’r un peth yn wir am drawsgrifio: mae gennym ein canllawiau ein hunain ar gyfer y Banc, ac mae gan ddarlledwyr fel S4C eu rhai hwythau ar gyfer isdeitlau. Rhan o’r rheswm am hyn yw bod gwahanol ddibenion yn galw am wahanol fathau o Gymraeg trawsgrifiedig. Nid yr un gofynion sydd i isdeitlau ar raglen newyddion, lle mae’r galw am ddarllenadwyedd yn golygu bod petruster ac ailddechrau yn cael eu hepgor, ac i gofnodion llythrennol gwrandawiad llys, lle mae pob “ym” yn cyfrif. Gall rhaglen ieuenctid neu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol fod angen cadw ffurfiau mwy llafar fel “dwi”, “nw” a “ca’l” yn union fel y cawson nhw eu dweud, lle byddai dogfen swyddogol yn rhoi “dw i”, “nhw” a “chael”. Penderfyniadau golygyddol yw’r rheiny yn y pen draw, ac mae pob dewis yn ddilys. I drawsgrifiad air-am-air, “sysnag” yw’r dewis cywir: dyna a ddywedwyd.
Fodd bynnag, mae’n rhaid troi pob un o’r arddulliau hyn yn Saesneg dealladwy, a dim ond un ohonynt a welodd y cyfieithydd peiriant wrth hyfforddi: y Gymraeg ysgrifenedig, ffurfiol, wedi’i golygu. Rhowch “sysnag” iddo, a chan nad yw erioed wedi gweld yr un o’r ffurfiau llafar ac yn gorfod cynnig rhywbeth, mae’n dyfeisio gair Saesneg newydd sbon: “the sysnagic translation”. Rhowch “Saesneg” iddo ac fe gewch “the English translation” bob tro. I ddarllenydd, amrywiaeth naturiol yw hyn i gyd. I fodel sy’n dysgu o enghreifftiau, mae’n her.
Mae’r ddau fodel yn yr ap wedi dysgu dwy fersiwn wahanol o’r Gymraeg. Dysgodd yr adnabyddwr o drawsgrifiadau air-am-air o leferydd, a dysgodd y cyfieithydd o destun ysgrifenedig ffurfiol. Rhowch “ma’ nw ‘di ca’l y petha” yn syth i’r model cyfieithu ac “it’s a bit of the things” ddaw’n ôl. I ddelio â hynny, rydym wedi gosod normaleiddiwr lleferydd a ddatblygwyd gan ieithyddion yr Uned rhwng y ddau fodel: tua dwsin o dablau o reolau sy’n troi’r llinell honno yn “mae nhw wedi cael y pethau” (sef “they have had the things”) cyn iddi gyrraedd y cyfieithydd, ac sy’n tynnu o’r testun y petrusterau a’r agiau trawsgrifio fel <anadlu> nad yw’r cyfieithydd erioed wedi’u gweld. Dim ond y peiriant cyfieithu sy’n gweld y testun wedi’i normaleiddio; mae’r trawsgrifiad ar y sgrin yn aros yno fel y mae. Ar 500 o frawddegau llafar o’r Banc a gyfieithwyd i’r Saesneg gan gyfieithydd dynol, cododd y cam hwn sgôr BLEU y cyfieithiad o 32.6 i 44.7. Mae hynny’n cynrychioli naid fawr am ddarn bach o god, ac arwydd clir o faint problem sy’n un o natur ieithyddol yn hytrach nag yn un o natur dechnegol.
Nid sillafu’n unig sy’n gyfrifol am y bwlch. Cymerwch “syth bin”, ffordd lafar, hollol naturiol, o ddweud “ar unwaith”. Dyna beth welsoch chi yn y clip ar frig y post. Rhowch “dewch yma’n syth bin” i’r cyfieithydd a “come here straight bin” a gewch. Rhowch “dewch yma ar unwaith” iddo a “come here at once” a ddaw’n ôl, yn gywir bob tro. Nid bod y model yn deall y naill ymadrodd yn well na’r llall ynddo’i hun. Y gwahaniaeth yw bod “ar unwaith” yn ymddangos yn gyson mewn dogfennau cyhoeddus a chofnodion dwyieithog ac felly mae’r model wedi’i ddysgu. Ond ffurf lafar yw “syth bin”, sydd, er yn gyffredin ar dafodau yn un sydd prin i’w gweld yn y math o ddogfennau lle ceir cyfieithiad Saesneg ohonynt. Mae’r ddau ymadrodd yng ngeirfa’r model adnabod lleferydd felly gall hwnnw eu hysgrifennu’n iawn. Y broblem yw nad yw’r model cyfieithu erioed wedi’u gweld ochr yn ochr â’i gilydd. Nid oes rheol ar eu cyfer yn y normaleiddiwr eto chwaith, mwy nag sydd ar gyfer “sysnag”. Un llinell fyddai ei hychwanegu (“syth bin” → “ar unwaith”), gan mai rhestr y mae ieithyddion yn ei chadw yw’r rheolau, nid cod, ond mae cannoedd o ymadroddion a ffurfiau felly yn y Gymraeg lafar, fesul tafodiaith. Nid oes neb wedi’u rhestru i gyd, ac mae perygl o weithredu newidiadau anfwriadol o ychwanegu gormod yn ddifeddwl.
Her 2: cyfnewid cod
Mae siaradwyr Cymraeg yn ychwanegu Saesneg yn gymysg yn eu Cymraeg drwy’r amser ar ffurf geiriau unigol, ymadroddion cyfan, enwau a dyfyniadau. Bydd unrhyw dechnoleg sy’n cymryd arni nad yw hynny’n digwydd yn methu dygymod â’r ffordd mae siaradwyr go iawn yn siarad, fel yr ysgrifennodd Gruffudd Prys ym mis Mawrth. Mae geirfa’r model adnabod lleferydd yn cynnwys rhai geiriau Saesneg cyffredin, “actually”, “so”, “like”, “email”, “meeting”, am eu bod i’w cael yn y trawsgrifiadau hyfforddi, ond nid model Saesneg mohono: dim ond y geiriau Saesneg a ddigwyddodd yn y trawsgrifiadau hynny mae’n eu hadnabod, a bydd ymadrodd Saesneg annisgwyl, neu enw, yn dod allan ar ffurf y geiriau Cymraeg sy’n swnio agosaf ato.
Canlyniad hynny yw bod y cyfieithydd yn wynebu Saesneg neu Saesneg carbwl y model adnabod lleferydd yng nghanol ymadrodd Cymraeg. Dyma ddwy enghraifft o’r arbrawf ar y Banc:
| Yr hyn a ddywedwyd | Yr hyn a gyfieithwyd |
| dwi isio neud teulu fi proud | I want to make a family of the biodes |
| Coming here a fi’n mwynhau like, mae’n lysh | Coming here and I enjoy like, it’s a court |
Weithiau mae’r ymadrodd neu’r gair Saesneg yn pasio drwodd yn gywir (fel y gwnaeth “leaps and bounds” o fewn yr un arbrawf), weithiau caiff ei “gyfieithu” fel pe bai’n air neu ymadrodd Cymraeg, ac weithiau fe fydd gair sydd yn Gymraeg (“lysh”) yn cael ei gamgyfieithu (mae hyn yn arbennig o wir am eiriau mwy llafar ac anffurfiol). Yr ateb go iawn i hyn yw mynd ati i greu modelau dwyieithog sy’n trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y cyd, a dyna’r cyfeiriad rydym eisoes yn ei ddilyn gyda’n modelau Whisper a fireiniwyd ar leferydd digymell Cymraeg a Saesneg, yn ogystal ag yn achos ein lleisiau synthetig dwyieithog lle mae un model yn medru ynganu’r ddwy iaith. Fodd bynnag, mae’r modelau hynny ganwaith yn fwy na’r model Kaldi sydd yn ap y Trawsgirifiwr Byw, ac nid ydynt eto’n gallu trawsgrifio wrth i chi siarad, a hynny ar liniadur cyffredin heb gerdyn graffeg pwerus. Dyna pam mae’r ap hefyd yn cynnig y dewis i chi o anfon y recordiad at wefan y Trawsgrifiwr Ar-lein, lle mae’r modelau mwy yn rhedeg ar ein gweinyddion ni, fel y gallant gynnig trawsgrifiad a chyfieithiad mwy cyflawn wedi i chi fod yn siarad.
Her 3: y data nad yw’n bodoli
Mae pob un o’r heriau uchod yn dod yn ôl at yr un peth: data.
| Oriau o leferydd â thrawsgrifiad | |
| Model Kaldi Cymraeg yr ap (pob corpws agored sydd gennym) | tua 159 |
| Whisper OpenAI, y model amlieithog y mae pawb yn ei gymharu ag ef (pob iaith gyda’i gilydd) | 680,000 |
Nid maint y data yn unig yw’r broblem. Mae llawer o’r data cyhoeddus sydd ar gael i ieithoedd lleiafrifol yn lleferydd darllen, sef pobl yn darllen brawddegau’n uchel i Common Voice: lleferydd glân, heb betruster, heb gyfnewid cod, a heb siaradwyr yn siarad ar draws ei gilydd. Dyna’r union nodweddion y mae lleferydd go iawn yn llawn ohonynt. Mae Banc Trawsgrifiadau Bangor, Lleisiau ARFOR a chorpws cyfarfodydd CLlLC yn eithriadau gan eu bod yn cynnwys y math hwnnw o siarad blêr, realistig a nhw sy’n cario’r model.
Ar gyfer cyfieithu lleferydd mae angen math arall o ddata eto: sain Gymraeg ynghyd â chyfieithiad Saesneg o’r hyn a ddywedwyd, nid o aralleiriad ysgrifenedig. Mae gennym 500 o frawddegau felly, sef set werthuso, nid set hyfforddi. Mae’r 11.8 miliwn o barau sy’n hyfforddi’r model cyfieithu yn ysgrifenedig, yn ffurfiol, ac mae cyfran ohonynt yn destun o’r we lle cafodd yr ochr Saesneg ei gyfieithu gan beiriant. Ar gyfer lleferydd Saesneg â chyfieithiad Cymraeg nid oes corpws o gwbl, ac ar gyfer cyfieithu o leferydd i leferydd, nid oes dim yn y naill gyfeiriad na’r llall.
Mae hynny’n bwysig am fod y systemau sy’n darparu cyfieithu ar y pryd go iawn (sain i mewn fel ffrwd, sain allan fel ffrwd gyfochrog ychydig eiliadau y tu ôl iddi, fel y gwna Hibiki rhwng Ffrangeg a Saesneg) wedi’u hadeiladu ar symiau enfawr o sain yn y ddwy iaith ac ar gyfieithu peirianyddol cryf yn y ddau gyfeiriad i greu data cyfochrog synthetig. Fel y mae adolygiad diweddar o’r maes yn nodi, ieithoedd â data prin yw’r her fwyaf ar gyfer y modelau adnabod lleferydd a chyfieithu uniongyrchol hyn. Mae papur arall yn cwestiynu pa mor “amser real” yw’r systemau a elwir yn rhai amser real: mae’r rhan fwyaf yn cael eu profi ar leferydd sydd eisoes wedi’i dorri’n frawddegau gan bobl, nid ar lif di-dor fel y bydd meicroffon yn ei glywed. Dyna’r llif y mae Trawsgrifiwr Byw yn gorfod ymdopi ag ef bob tro.
Cymraeg i Saesneg a Saesneg i Gymraeg: nid yr un dasg o fewn Cyfieithu ar y Pryd
Mae’n demtasiwn meddwl am gyfieithu fel llwybr dwy ffordd, ac y bydd y naill gyfeiriad yn gweithio cystal â’r llall unwaith y bydd y dechnoleg yn bodoli. Nid felly mae’r sefyllfa yng Nghymru oherwydd sefyllfa gymharol y ddwy iaith, ac mae’r gwahaniaeth yn newid beth mae “digon da” yn ei olygu.
O’r Gymraeg i’r Saesneg yw cyfeiriad arferol cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd yng Nghymru. Pwrpas cyfieithu ar y pryd yw caniatáu i siaradwyr Cymraeg siarad Cymraeg heb i’r rhai nad ydynt yn deall Cymraeg gael eu cau allan a gorfodi newid iaith pob cyfarfod neu ddigwyddiad i’r Saesneg. Mae derbyniwr y gwasanaeth yn rhywun nad yw’n deall y Gymraeg ac felly mae’n goddef ac yn anwybyddu unrhyw fân wallau am na fyddai’n deall dim fel arall.
O’r Saesneg i’r Gymraeg mae’r sefyllfa i’r gwrthwyneb bron ym mhob ffordd. Mae’r gynulleidfa, sef siaradwyr Cymraeg, eisoes yn deall y Saesneg, felly nid “deall” yw’r pwrpas ond darparu gwasanaeth ar sail hawliau iaith. Hynny yw, rhoi’r Gymraeg i bobl sydd â hawl i’w chael ac sy’n dewis byw eu bywydau ynddi. Y Gymraeg ei hun yw’r cynnyrch, ac mae pob gwall ynddi, treiglad coll, cywair anghywir, term ffurfiol mewn sgwrs anffurfiol, “chi” am “ti”, yn weladwy i bob darllenydd rhugl ac yn tanseilio ffydd yn y gwasanaeth. Erbyn hyn, mae adnabod lleferydd Saesneg yn broblem sydd wedi’i datrys i bob pwrpas; cywirdeb a naturioldeb y Gymraeg a ddaw allan o’r modelau yw’r her, a dyna’r union beth y mae’n anoddaf ei fesur â pheiriant. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn mynnu nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac mae datganiad polisi rheoleiddiol Comisiynydd y Gymraeg ar ddeallusrwydd artiffisial (Gorffennaf 2025) yn gosod tegwch ieithyddol, cywirdeb a naturioldeb yr iaith, a phrofi systemau’n benodol yn y Gymraeg, fel disgwyliadau sylfaenol. Ein safbwynt ni yw nad yw cyhoeddi Cymraeg peirianyddol heb yr un lefel o adolygiad a roddir i destunau Saesneg yn cwrdd â’r safon honno. Mae ffeil NOTICE ein modelau yn dweud yr un peth: fe’u rhyddhawyd er mwyn helpu sefydliadau i gynnig gwasanaeth Cymraeg cystal â’r un Saesneg, nid er mwyn cymryd lle darpariaeth Gymraeg o safon.
Yn fyr: mae cyfieithu i’r Saesneg yn gofyn am ddealltwriaeth dda; mae cyfieithu i’r Gymraeg yn gofyn am hynny yn ogystal â Chymraeg da. Mae’r ail yn safon uwch, ac mae’n gofyn am fewnbwn golygyddol gan bobl gymwys.
Ai disodli cyfieithwyr ar y pryd yw’r nod? Na
Gadewch inni fod yn gwbl glir, felly. Nid yw Trawsgrifiwr Byw, na’r un o’n modelau, yn gyfieithydd ar y pryd, ac nid dyna rydym yn ceisio ei adeiladu yma. Mewn cyfarfodydd lle mae’n rhaid i’r cyfieithiad fod yn gywir ac yn gofnod y gellir dibynnu arno, mewn llys, mewn apwyntiad meddygol, mewn pwyllgor sy’n penderfynu ar faterion pwysig, mewn cyfweliad swydd, mewn gwrandawiad, mae angen cyfieithydd dynol o hyd, a bydd angen un am amser hir i ddod.
Mae cyfieithydd ar y pryd yn gwneud pethau nad yw’r biblinell hon yn eu gwneud o gwbl. Mae’n rhagweld diwedd brawddeg cyn ei chlywed, ac yn cychwyn ei chyfieithu ddwy neu dair eiliad y tu ôl i’r siaradwr, nid ugain eiliad wedyn. Mae’n adnabod enw na chlywodd erioed o’r blaen am ei fod yn gwybod pwy sydd yn yr ystafell. Mae’n deall mai jôc oedd honno, neu fygythiad, neu ddyfyniad. Mae’n trin cyfnewid cod heb sylwi arno. Mae’n cywiro ei hun. Ac, yn bwysicach na dim, mae’n cymryd cyfrifoldeb am ei eiriau; ni all unrhyw beiriant wneud hynny.
Yr hyn y gall yr ap ei wneud yw helpu unigolion: i ddilyn sgwrs neu ddarllediad Cymraeg yn fras, i gymryd nodiadau, i wneud drafft o gofnodion i’w cywiro, i gefnogi dysgwr, neu gynnig cymorth hygyrchedd. Mae’r ap yn dweud hynny ar y sgrin wrth agor, ac mae ffeil NOTICE pob model yn rhestru’n benodol y sefyllfaoedd nad yw’n addas ar eu cyfer oni bai bod person cymwys yn adolygu pob gair. Cynorthwyydd ydyw, nid awdurdod.
I ble nesaf, a beth fydd ei angen
Y peth pwysicaf a ddysgwyd wrth inni weithio ar yr ap yw hyn: nid y cyfrifiadur yw’r rhwystr mwyach. Mae dau fodel sydd gyda’i gilydd dan 150 MB yn trawsgrifio ac yn cyfieithu ar liniadur cyffredin yn gynt nag y gall neb siarad. Y rhwystrau yw’r polisi sy’n penderfynu pryd i gyfieithu, y bwlch rhwng y ddau fodel, yr eirfa gaeedig, a’r data.
Yn yr ap ei hun, y camau nesaf yw cyfieithu’r frawddeg wrth iddi dyfu (ailgyfieithu’r rhan y mae’r adnabyddwr wedi setlo arni bob degfed eiliad, fel y gwna’r systemau ailgyfieithu yn y llenyddiaeth) yn lle aros amdani; rheoli’n well pryd fydd brawddeg yn gorffen; adfer atalnodi a phriflythrennau rhwng y ddau fodel, fel bod “dyma gic gosb i gymryd …” yn troi’n “here is a penalty kick to take …” ond “Dyma gic gosb i Gymru.” yn troi’n “This is a penalty kick for Wales.”; ehangu rheolau’r normaleiddiwr â’r idiomau llafar nad ydynt mewn data swyddogol dwyieithog o’r we (fel “syth bin”, er enghraifft); a chreu modelau adnabod lleferydd dwyieithog â geirfa agored, fel y gall enwau a Saesneg ymddangos yn eu hallbwn o’r diwedd.
Y tu hwnt i’r ap, mae yno lwybr tuag at gyfieithu ar y pryd go iawn, o lais i lais, yn y ddau gyfeiriad, a hynny drwy gasglu data. Dyma beth fyddai ei angen:
- Lleferydd digymell, dwyieithog, â chaniatâd a thrwydded agored. Cannoedd yn llawer o oriau o Gymraeg fel y’i siaredir, gan gynnwys cyfnewid cod, siaradwyr niferus a sŵn cefndir, gyda’r cyfan wedi’i drawsgrifio air-am-air a’u rhyddhau fel y mae Banc Trawsgrifiadau Bangor (CC0), fel y gall unrhyw un adeiladu arnynt.
- Lleferydd wedi’i drawsgrifio ym mhob un o’r arddulliau a ddisgrifiwyd uchod, gyda chyfieithiad Saesneg cyfatebol i bob un, fel y gall normaleiddiwr neu gyfieithydd droi unrhyw un ohonynt yn Saesneg dealladwy.
- Cyfieithiadau dynol o leferydd, nid o destun ysgrifenedig: miloedd o frawddegau llafar â’u cyfieithiadau Saesneg, ac, ar gyfer y cyfeiriad arall, lleferydd Saesneg ochr yn ochr â chyfieithiad Cymraeg. Un ffynhonnell bosibl, gyda chaniatâd pawb dan sylw, fyddai recordiadau o gyfarfodydd sydd eisoes yn cael eu cyfieithu ar y pryd: y Gymraeg a’r Saesneg, ochr yn ochr, fel y’u llefarwyd.
- Gwerthusiadau sy’n mesur maint y ddealltwriaeth, nid sgorau awtomatig yn unig, ond gofyn: a ddeallodd y darllenydd? Dyna’r cwestiwn pwysicaf y mae defnyddwyr yn ei ofyn.
- Gweithio gyda chyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd, nid o’u cwmpas. Nhw sy’n gwybod beth yw ystyr “digon da”. Eu gwaith nhw fyddai’r data gorau posibl, ac maen nhw’n deall na allan nhw fod ym mhob man i gyfieithu popeth sydd angen ei gyfieithu.
Mae pob awr o Gymraeg lafar a roddir i Common Voice neu i’r Banc yn cyfrif. Nid oes llwybr byr o ran casglu data.
Trwyddedu’r modelau: Apache 2.0 a’r ffeil NOTICE
Mae’r ddau fodel y mae’r ap yn eu defnyddio bellach ar gael o dan drwydded Apache 2.0, sy’n caniatáu defnydd masnachol. Yn achos y model lleferydd, hwn yw’r model Kaldi/Vosk cyntaf o’r Uned i gael ei ryddhau felly: tan yn awr roedd un o’i gydrannau yn cyfyngu’r model at ddefnydd ymchwil anfasnachol. O ddisodli’r gydran ag un arall dan drwydded Apache (pocolm) agorodd hynny’r drws i drwydded fwy caniataol. Mae’r data lleferydd eisoes i gyd yn CC0, ac mae data’r model cyfieithu dan y Drwydded Llywodraeth Agored, CC BY ac ODC-By, a’r cyfan wedi’i gydnabod yn ôl eu telerau.
Gyda phob model daw ffeil NOTICE (e.e. kaldi-cy), ac mae Apache 2.0 yn mynnu bod y ffeil honno’n teithio gyda’r model i bwy bynnag sy’n ei ailddosbarthu neu’n adeiladu arno. Ynddi mae’r gydnabyddiaeth, ond hefyd y pethau y credwn y dylai pob defnyddiwr eu gwybod:
- mae prosesu awtomatig yn gwneud camgymeriadau, a gall yr allbwn fod yn anghywir er ei fod yn edrych yn rhugl a hyderus: ceir ynddo geiriau coll neu ychwanegol, enwau, rhifau, dyddiadau a negyddion anghywir, a llai o gywirdeb ar dafodiaith, sain wael a phynciau anghyfarwydd;
- dylid trin yr allbwn fel un dros dro, i’w wirio gan berson cymwys cyn dibynnu arno fel cofnod, cyn gwneud penderfyniad sy’n effeithio ar rywun, a chyn ei rannu neu ei gyhoeddi, a dylid dweud wrth ddefnyddwyr system fyw mai peiriant sy’n siarad;
- nid yw’n addas ar gyfer sefyllfaoedd meddygol, cyfreithiol, ariannol na brys, nac unrhyw benderfyniad sy’n effeithio ar hawliau, iechyd, rhyddid neu fywoliaeth rhywun, oni bai bod person cymwys yn adolygu pob allbwn;
- yng Nghymru, dylai pwy bynnag sy’n defnyddio’r model ystyried gofynion Mesur y Gymraeg a chanllawiau’r Comisiynydd: nid yw cynnig Cymraeg awtomatig lle mae pobl yn darparu’r Saesneg yn gyson â’r pwrpas y rhyddhawyd y model ar ei gyfer.
Mae’r ap yn dangos y ffeil hon i chi o’r wybodaeth fersiwn sydd yn ei bennawd, ac mae’r un rhybudd yn cael ei ddangos ar y sgrin bob tro y bydd yn agor. Dyna’r cytundeb rydym yn ei gynnig o gynhyrchu a dosbarthu’r modelau hyn: modelau agored y gall unrhyw un, gan gynnwys cwmnïau, eu defnyddio a’u gwella, ar yr amod bod y gwirionedd am eu cyfyngiadau hefyd yn cyrraedd y bobl sy’n eu defnyddio.
Rhowch gynnig arni
Mae’r Trawsgrifiwr Byw ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar gyfer Windows, Mac a Linux o github.com/techiaith/trawsgrifiwr-byw, gyda fersiwn ar gael sydd wedi’i bwndelu ar gyfer ysgolion a rhwydweithiau caeedig. Mae’r modelau ar Hugging Face, a’r cod yn agored. Os gwelwch wallau, neu os oes gennych leferydd, cyfieithiadau neu amser i’w cynnig, cysylltwch â ni: techiaith@bangor.ac.uk.
Ffynonellau a dolenni
- Trawsgrifiwr Byw: cod a rhyddhadau
- Modelau: techiaith/kaldi-cy (adnabod lleferydd, Apache 2.0) · techiaith/cy_en_GB-bu_tts (lleisiau dwyieithog)
- Data: Banc Trawsgrifiadau Bangor · Lleisiau ARFOR · Corpws CLlLC/WLGA · Common Voice Cymraeg
- Gruffudd Prys, Pwysigrwydd modelau dwyieithog ar gyfer y Gymraeg, techiaith.cymru, Mawrth 2026
- Comisiynydd y Gymraeg, Deallusrwydd artiffisial a’r Gymraeg: datganiad polisi rheoleiddiol (Saesneg), Gorffennaf 2025 · Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
- A. Radford et al., Robust Speech Recognition via Large-Scale Weak Supervision (Whisper), 2022: 680,000 awr o ddata hyfforddi
- S. Papi, P. Polák, O. Bojar, D. Macháček, How “Real” is Your Real-Time Simultaneous Speech-to-Text Translation System?, TACL, 2025
- M. Sarim et al., Direct Speech to Speech Translation: A Review, 2025
- T. Labiausse et al., High-fidelity simultaneous speech-to-speech translation (Hibiki), 2025
- IWSLT, y gynhadledd flynyddol ar gyfieithu iaith lafar
