Sofraniaeth

Gellir diffinio Sofraniaeth DA, yn syml, fel yr angen i genhedloedd sicrhau eu hecosystemau DA eu hunain [1]. Yn ôl Singh a Sengupta:

“With artificial intelligence (AI) rapidly becoming the foundation for economic, military, and civic life, many nation-states are asserting the need for sovereign control—advocating greater control over its development and deployment.” [2]

Mae Sofraniaeth wedi datblygu’n bwnc trafod hynod bwysig, o ran materion sy’n ymwneud â DA a materion eraill (megis diogelu ffynonellau ynni er enghraifft), dyma’r pethau sydd ar frig rhestr blaenoriaethau gwleidyddion [3]. Mae risg cynhenid i ddiogelwch cenedlaethol ac annibyniaeth ieithyddol ynghlwm wrth ddibynnu ar fodelau DA trydydd parti a ddatblygwyd dramor [4]. O ganlyniad i hyn, ni fydd, er enghraifft, Gweinyddiaeth Amddiffyn India yn debygol o ddefnyddio DA DeepSeek, sydd wedi ei ddatblygu yn Tsieina [5]. Fel sydd wedi ei drafod troeon yn yr Wythnos DA 2025,1 mae llywodraethau o amgylch y byd yn ceisio mynnu eu lle ar lwyfan ryngwladol DA, ac yn ceisio datblygu eu systemau ei hun er Sofraniaeth. Nid mynd i’r afael â gogwydd yw eu hamcan nhw, o reidrwydd, ond efallai bydd creu systemau sofran yn golygu llai o ogwydd diwylliannol yn y pendraw, fel rhyw fath o sgil effaith.

Ffigur 1 Dwylo, wedi ei wneud o wahanol cyfieithiadau o'r gair Deallusrwydd Artiffisial, yn cydio yn ei gilydd - cynhyrchwyd gyda Wordart.com

Ffigur 1 Dwylo DA – cynhyrchwyd gyda Wordart.com

Fodd bynnag, mae DA sofran yn ddrud [4, 5, 6]. Mae’r gost yn golygu bod datblygu DA sofran y tu hwnt i gyrraedd gwledydd a llywodraethau maint canolig, heb sôn am ddiwylliannau llai.

Mae Tan et al. [6] yn cynnig, felly, mai cydweithio yw’r ffordd orau o weithredu. Yn eu hadroddiad Airbus for AI: A global strategy for public value creation, maen nhw’n dadlau y byddai modd rhannu’r prif dasgau (ac felly’r costau) sydd ynghlwm wrth ddatblygu DA rhwng gwahanol wledydd neu aelodau o’r fenter, ac yna gadael i’r gwledydd unigol lleoleiddio’r allbynnau a sicrhau fod iaith a chyfeiriadaeth ddiwylliannol yn addas.

Efallai mai dyma’r ffordd orau o weithredu. Wedi’r cwbl, fel mae hanes wedi dangos troeon, rydym yn gryfach gyda’n gilydd. A’r goblygiadau o beidio â chydweithio? Arswydus, bron, yn ôl Tan et al. Dywedant:

“The alternatives are stark: continue investing in sub-scale sovereign AI strategies, import AI from abroad—with clear and growing risks to national security, economic competitiveness, and cultural identity—or put faith in pitches like OpenAI for Countries (OpenAI, 2025) or NVIDIA and Perplexity’s sovereignty sandwich (Laurent, 2025; NVIDIA, 2025).” [6]

Er gwaetha’r rhybudd dychrynllyd hwn mae’n annhebygol y bydd y DU, o leiaf, yn ymuno ag Airbus for AI, gan fod Llywodraeth y DU wedi llunio Cynllun Gweithredu (o’r enw AI Opportunities Action Plan [7] AIOAP o hyn allan) ac eisoes wedi sicrhau buddsoddiadau sydd gwerth symiau enfawr o arian yn ymwneud y DU â DA.2 Wrth drafod cynlluniau DA’r DU mae Brown [8] yn nodi bod y DU yn troedio rhwng dull yr Americanwyr o weithredu (sy’n canolbwyntio ar arloesi, i raddau trwy gael gwared ar rwystrau rheoleiddio) a sut mae’r UE yn gweithredu (sy’n canolbwyntio ar lywodraethiant a rheoleiddio).

Byddai dilyn dull yr Americanwyr a chystadlu gyda’r pwerau mawrion yn hynod gostus. Yn wir, yn ôl Mcbride et al.:

“The UK cannot and should not try to compete in the resource-intensive race to train frontier-AI models. That track is currently dominated by the United States, China and the Gulf states, which are investing hundreds of billions of dollars in the creation of vast, energy-hungry compute clusters. The UK lacks the fiscal headroom, land and energy resources to keep pace.” [9].

Mae dull yr UE ar y llaw arall wedi lleihau lefel buddsoddi yn DA yn yr UE, ac wedi profi’n rhwystr i’r sawl a fyddai fel arall wedi sefydlu egin o fusnes yno wedi ei seilio ar DA [3].

Mae’r DU, meddai Brown [8], wedi dewis trydydd opsiwn, sef creu dull rheoleiddio sy’n seiliedig ar egwyddorion a weithredir drwy isadeiledd rheoleiddio sydd eisoes yn bodoli.

A oes Sofraniaeth?

Diddorol yw nodi fod Uned Sofraniaeth DA’r DU, sydd wedi ei chreu yn sgil yr AIOAP, wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda chwmnïau mawrion rhyngwladol megis Anthropic, Nvidia, Cohere ac OpenAI [10].

Nododd Keir Starmer ei fod eisiau i’r DU fod yn ‘AI maker’ yn hytrach na’n ‘AI taker’ [11]. Fodd bynnag, er bod Ranger [3] yn croesawu bod cwmnïau mawrion rhyngwladol yn buddsoddi mewn DA ac isadeiledd cysylltiedig yn y DU, roedd o’r farn bod y buddsoddiad hwnnw’n troi’r DU yn ddefnyddiwr gwasanaeth.

I fod yn deg, fel sydd wedi ei nodi eisoes, anodd yw cyfiawnhau dilyn model neu ddull arloesi’r pwerau mawrion. Ac yn ôl Butalid [12] heblaw am yn achos y pwerau mawrion hynny, nid bod yn gyfan gwbl hunan gynhaliol yw ystyr Sofraniaeth. Yn hytrach, mae sofraniaeth yn ymwneud â meddu ar y dulliau neu’r isadeiledd ymarferol i lywodraethu systemau DA yn fewnol. Atega Brown [13] hyn, gan ddadlau nad adeiladu popeth o fewn ein cymuned na thorri cysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol mo ystyr anelu at Sofraniaeth. Dyweda:

“Rather, it is about ensuring that when critical systems fail, standards change or abuses occur, UK institutions have the authority, information and tools to respond under UK law and with necessary oversight.”

Dadleua hefyd mai elfennau pwysicaf Sofraniaeth bellach yw pŵer cyfrifiannu, data, a goruchwyliaeth system. Clodfora’r buddsoddiad gan gwmnïau mawrion sy’n werth nifer o filiynau o bunnoedd am gyfrannu:

“capital, skills and early access to advanced models that the UK could not realistically replicate alone.”

Serch hyn, rhybuddia Brown fod yn rhaid cyfaddawdu rhwng cyflymder defnyddio adnoddau allanol a gallu’r DU i reoli ei DA ei hun. Mae defnyddio adnoddau allanol yn osgoi problemau sy’n gysylltiedig â darniad, dyblygu gwaith a cholli cyfle i gydweithio, ond ar y llaw arall ceir hefyd y risg o drosglwyddo pŵer a rheolaeth dros nifer o elfennau hynod bwysig megis diogeledd i endidau sydd y t hwnt i’r DU. Mae cyfleustra heddiw yn troi’n ddibyniaeth yfory, meddai Brown yn dwt.

Efallai mai cael gymaint o Sofraniaeth a phosib ar sawl lefel yw’r ateb. Hynny yw, ceisio cynyddu’r berchnogaeth gymaint â phosib, gan ganolbwyntio ar yr elfennau mae Brown yn eu nodi fel pwysig yn y tymor byr, ond gweithio tuag at sefyllfa lle bo defnyddio gwasanaeth cwmwl (o America, neu gwmni tu allan i’r gymuned dan sylw) yw’r dewis gwahanol, nid yr un arferol, yn y tymor hir.

Ond rwy’n crwydro oddi ar y pwynt i ryw raddau. Hynny yw, at ddibenion y blog hwn, nid yn unig fel offeryn llywodraethu y mae Sofraniaeth yn bwysig, ond fel amddiffyniad posibl yn erbyn ymyleiddio diwylliannol mewn systemau DA. Nodwedd amlwg o’r AIOAP yw’r ffocws ar fuddsoddiad economaidd a seilwaith digidol ar lefel y DU, heb gyfeiriad penodol at ieithoedd llai eu maint megis y Gymraeg na diwylliannau lu’r DU. Mae hyn yn codi cwestiwn dilys ynghylch a yw fframweithiau Sofraniaeth DA cenedlaethol, fel y’u diffinnir ar hyn o bryd, yn ddigonol i fynd i’r afael â gogwydd ieithyddol a diwylliannol.

Ar ddiwedd y blog diwethaf, awgrymais fod Sofraniaeth yn bosib ar lefel gymunedol neu genedlaethol. Mewn gwirionedd, mae’r sefyllfa’n fwy cymhleth na hyn. O dan y drefn Westffalaidd glasurol, dim ond y wladwriaeth sydd yn sofran — mae pob endid is-genedlaethol yn arfer awdurdod a ddirprwywyd, nid sofraniaeth ei hun. Ond mae mudiadau sofraniaeth ddata brodorol yn gwrthod y rhagosodiad hwnnw: mae Egwyddorion CARE [14] a thrwydded Kaitiakitanga Te Hiku Media [15] yn seilio’r hawl dros ddata iaith yn y bobl eu hunain, nid mewn caniatâd a ddirprwywyd gan wladwriaeth. Mae ein cymuned ni, sef y gymuned siaradwyr Cymraeg, — cymuned nad yw’n wladwriaeth, na chwaith yn bobl frodorol o ran statws cyfreithiol-ryngwladol — yn disgyn rywle rhwng y ddau fframwaith, a dyna sydd wrth wraidd yr her.3

Efallai bod angen defnyddio model tebyg i un Airbus for AI, fel mae Tan et al. [6] yn ei gynnig, ond yn fewnol yn y DU, gyda chenhedloedd neu ddiwyllianau’r DU yn cael rhyddid i sicrhau addasrwydd diwylliannol. Byddai hynny yn helpu o ran sicrhau tegwch i ieithoedd llai a diwylliannau’r DU. Bydd yn rhaid aros i weld a yw model cydweithredol mewnol o’r fath yn realistig yn wleidyddol. Ar lefel Cymru, fodd bynnag, mae Cynllun DA ar wahân eisoes wedi’i ddatblygu — ond mwy am hynny yn y dyfodol!4

Beth bynnag, efallai nad yw Sofraniaeth yn ateb perffaith – ond gall fod yn un llwybr tuag at wydnwch diwylliannol, o gael ei gweithredu’n gywir.

Cyfraniad Sefydliadau Rhyngwladol

Mae’n bosib y gall Sofraniaeth fynd i’r afael â rhai problemau ar lefel genedlaethol. Ond beth am gydlynu ar draws gwledydd? Y cwestiwn amlwg nesaf yw: a fydd cynllun DA Cymru yn gwrthdaro gyda chynllun y DU, ac, er Brexit, yr Undeb Ewropeaidd? Yn ddelfrydol, na. Ond mae gwrthdaro, darniad, neu ddatgysylltiad rhwng gwahanol gynlluniau ar lefel ryngwladol wedi ei adnabod fel problem gan nifer [16]. Os yw hyn yn wir, mae’n glir bod angen i sefydliadau rhyngwladol gamu i mewn a chreu canllawiau neu fframweithiau. Yn wir, mae gosod fframweithiau neu ddulliau llywodraethiant gan gyrff o’r fath yn bwysig i ddyfodol gymunedau ieithoedd lleiafrifol [17] a brodorol [18]. Mae Argymhelliad UNESCO ar Foeseg Deallusrwydd Artiffisial, a’r Compact Digidol Byd-eang – dau fframwaith o’r fath – yn pwysleisio pwysigrwydd llywodraethu DA mewn ffordd gynhwysol [19]. Ydi’r fframweithiau hynny’n ddigonol? Efallai nad ydynt. Yn ôl Birnie [17] mae nifer o fframweithiau wedi eu llunio’n rhyngwladol, ond mae ieithoedd lleiafrifol yn disgyn drwy’r bylchau rhwng y gwahanol fframweithiau. Dadleua bod cyfreithiau hawliau dynol, amddiffyniadau ieithoedd lleiafrifol, a rheoliadau llywodraethu DA i gyd yn mynd i’r afael â rhan yn unig o gylchred bywyd technoleg yr ieithoedd hyn, nid ydynt yn darparu datrysiad cyfannol. Mae’n rhesymu felly bod angen fframwaith rheoleiddio cyffredinol neu gorff cydlynu er mwyn atal ieithoedd rhag darfod.

Wrth i ni aros nes bod hynny’n digwydd, mae’n ddiddorol nodi bod ambell i sefydliad rhyngwladol wedi datblygu fframweithiau penodol i daclo gogwydd mewn DA. Er enghraifft, mae IEEE wedi creu canllawiau penodol i dorri lawr ar ogwydd,5 ac mae ISO wedi creu safon 42001 sy’n ymwneud â chreu systemau rheoli DA6 ac wedi llunio adroddiad technegol at fynd i’r afael a gogwydd mewn DA.7 Mannau cychwyn da i grewyr a defnyddwyr DA, efallai.

Y Diwedd, o’r Diwedd

Felly pwy sy’n cael llunio’r gwerthoedd diwylliannol mewn DA? Fel rydyn ni wedi’i weld, dylai hynny gynnwys pawb. Ar ddiwedd y blog cyntaf nes i son bod cyfrifoldeb gennym fel unigolion o ran defnyddio DA. Ac mae hynny’n parhau i fod yn wir, wrth gwrs. Ond yn y blogiau ers hynny rydyn ni wedi dysgu bod cyfrifoldeb gan fwy o randdeiliaid, boed yn unigolion, yn ymchwilwyr neu grwpiau o ymchwilwyr, yn gymunedau diwylliannol, yn egin fusnesau, yn gwmnïau mawrion, yn gyrff cyhoeddus, yn llywodraethau, neu’n sefydliadau rhyngwladol. Mae pob haen o gymdeithas — o ddefnyddwyr unigol i reoleiddwyr rhyngwladol — yn chwarae rhan wrth lunio a yw deallusrwydd artiffisial yn erydu diwylliant neu’n ei gryfhau.

Diolch am ddarllen hyd y diwedd unwaith eto (jiw jiw ‘dych chi’n un brwd am dechnoleg!). Gobeithio eich bod wedi mwynhau ein rwdlan dros y gyfres hyd yma. Os felly, peidiwch â becso, mae gennym fwy o bethau i’w trafod, ac mae mwy o flogiau i ddod! Ymunwch â ni y tro nesaf, felly, lle rydyn ni’n canolbwyntio unwaith eto ar Gymru, a thrafod nifer o’r themâu rydyn ni wedi eu datgelu yn y blog hwn unwaith eto, ond yng nghyd-destun ein diwylliant ni. Tan toc!

1Sef “the UK’s biggest online festival of AI learning”. Gweler https://aiweek.digileaders.com/

2 Gweler https://assets.publishing.service.gov.uk/media/697a36873c71d838df6bd400/ai_opportunities_action_plan-one-year-on.pdf er mwyn cael syniad o’r symiau hyn.

3 Mae hyn, wrth gwrs, yn wir am unryw un o ddiwyllianau lu’r DU!

4 I’r rhai sydd yn chwilfrydig, mae’r cynllun i’w gael i’w ddarllen yn fan hyn: https://www.llyw.cymru/y-cynllun-ai-i-gymru-html

5 Gweler https://ieeexplore.ieee.org/document/10851955

6 Gweler https://www.iso.org/standard/42001

7 Gweler https://www.iso.org/standard/77607.html

Llyfryddiaeth

[1] Gao, Z., W. Jiang, H. Ren, K. Wang ac Y. Wu (2025). “AI Sovereignty”. Adalwyd 7/01/26, o https://ssrn.com/abstract=5952978 neu http://dx.doi.org/10.2139/ssrn.5952978
[2] Singh, S. K. a S. Sengupta (2025). Sovereign AI: Rethinking Autonomy in the Age of Global Interdependence. https://arxiv.org/html/2511.15734v1
[3] Ranger, K. (2025). The UK’s AI Strategy at the Crossroads: Time to Choose Sides? AI Week 2025. A. Brown. Ar-lein.
[4] Txabarriaga , R. (2025). “Linguistic Sovereignty: Should Governments Develop Their Own National AI Models?” The Slator Tool Box https://us10.campaign-archive.com/?u=2f420a68098a7f1ab8687aaa2&id=1466a95a83#mctoc1 2025.
[5] Down , A. (2025). Governments are spending billions on their own ‘sovereign’ AI technologies – is it a big waste of money? the Guardian. Ar-lein.
[6] Tan, J., B. Jackson, R. Berjon a D. Coyle (2025). Airbus for AI: A global strategy for public value creation. Cambridge.
[7] Clifford, M. (2025). AI Opportunities Action Plan. Department for Science and I. T. London, DSIT.
[8] Brown , A. (2025). The UK’s AI Strategy at the Crossroads: Time to Choose Sides? Ar-lein, Digital Leaders.
[9] Mcbride, K., T. Langengen, D. West, J. Bradley a J. Mökander (2025). Sovereignty, Security, Scale: A UK Strategy for AI Infrastructure, Tony Blair Institute for Global Change.
[10] Llywodraeth y DU. (2025a). “Sovereign AI Unit.” Adalwyd 7/01/26, o https://www.gov.uk/government/collections/sovereign-ai-unit.
[11] Llywodraeth y DU. (2025b). Prime Minister’s remarks at London Tech Week 2025: Monday 9 June. Ar-lein, Llywodraeth y DU.
[12] Butalid, R. W. (2025). What “AI Sovereignty” Means for Nations Without Superpower Resources. In The State of AI Ethics Report (Volume 7) – AI at the Crossroads: A Practitioner’s Guide To Community-Centered Solutions. R. W. Butalid, Connor a I. Kherroubi García (eds), Montreal AI Ethics Institute. 7: 25-27.
[13] Brown, A. Making AI Work for Britain. London: London Publishing Partnership, 2026.
[14] Carroll, S., I. Garba, O. Figueroa-Rodríguez, J. Holbrook, R. Lovett, S. Materechera, M. Parsons, K. Raseroka, D. Rodriguez-Lonebear, R. Rowe, R. Sara, J. Walker, J. Anderson and M. Hudson (2020). “The CARE Principles for Indigenous Data Governance.” Data Science Journal 19.
[15] Taiuru, Karaitiana. (2021). Māori Data Sovereignty Licences. Adalwyd 7/06/26, o https://www.taiuru.co.nz/maori-data-sovereignty-licences/
[16] Huang, J. Y. (2025). Competing AI Action Plans: Regional Bloc Responses to the US and China. I’n The State of AI Ethics Report (Volume 7) – AI at the Crossroads: A Practitioner’s Guide To Community-Centered Solutions. R. W. Butalid, Connor ac I. Kherroubi García (eds), Montreal AI Ethics Institute. 7: 22-24.
[17] Birnie, I. (2026). “No language left behind? Towards an integrated framework for linguistic rights, human rights and technology regulation.” Language and Law / Linguagem e Direito 12(1).
[18] Kasosi, L. (2025). “Indigenous Peoples and AI: Defending Rights, Shaping the Future of Technology.” Adalwyd 12/12/25, o https://www.culturalsurvival.org/news/indigenous-peoples-and-ai-defending-rights-shaping-future-technology.
[19] Fforwm parhaol y Cenhedloedd Unedig ar faterion Brodorol. (2025). “International Day of the World’s Indigenous Peoples 2025 Virtual commemoration.” Adalwyd 12/12/25, o https://social.desa.un.org/sites/default/files/IDWIP%202025%20Concept%20Note%20FINAL.pdf.

Gareth Watkins a Gruffudd Prys