Cafarwyddiadau Defnydd Vocab 2.0

A ydych chi eisiau dysgu sut i ddefnyddio Vocab 2.0? Dilynwch y cyfarwyddiadau isod!

Cliciwch yr eicon hwn er mwyn troi Vocab 2.0 ymlaen:

logo vocab

O wneud hynny, mi fydd Vocab 2.0 yn prosesu’r dudalen, ac ar ôl cwblhau’r prosesu, mi fydd eicon Vocab 2.0 yn troi’n wyrdd ac mi fydd y mwyafrif o’r geiriau ar y dudalen yn ymddangos wedi eu tanlinellu:

Tanlinellu yn Vocab 2.0

Hofrwch eich cyrchydd dros air sydd wedi ei danlinellu er mwyn cael at ddiffiniad neu fwy o wybodaeth amdano:

Sgrinlun yn dangos diffiniad yn Vocab 2.0

Os bydd yn well gennych weld pob un gair sydd wedi ei danlinellu, un ar y tro, yna mi gewch chi naill ai hofran dros y geiriau un ar y tro, fel uchod, neu mi allwch ddefnyddio botymau Vocab 2.0 i lywio trwy’r dudalen. Gwasgwch y botwm saeth i’r dde i weld diffiniad y gair nesaf:

Vocab 2.0 nesaf

A gwasgwch y botwm saeth i’r chwith i weld diffiniad y gair blaenorol:

Vocab 2.0 blaenorol

Cliciwch yr X i ddiffodd Vocab 2.0:

Diffodd Vocab 2.0

O glicio’r i:

Botwm mwy o wybodaeth Vocab 2.0

mi gewch chi gyfarwyddiadau i’ch helpu i lywio’r dudalen gyda’ch bysellfwrdd. Yn fras, pwyswch Ctrl ac Alt a V ar yr un pryd er mwyn troi ymlaen neu ddiffodd Vocab 2.0, pwyswch ar yr allwedd saeth i’r dde er mwyn gweld diffiniad y gair nesaf, yr allwedd saeth i’r chwith i weld diffiniad y gair blaenorol, a’r bylchwr i doglo rhwng dangos a diffodd y diffiniad. Gewch ddefnyddio’r allwedd Esc i ddiffodd Vocab 2.0 hefyd.

Botwm cymorth Vocab 2.0
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.