Mae’r ategyn Vocab yn adnabod geiriau o eiriaduron megis Cysgair a’r Termiadur Addysg yn nhestun eich gwefan, ac yn eu tanlinellu. Ar ôl gosod y rhaglen, bydd modd i ddefnyddwyr weld cofnodion geiriadurol llawn drwy symud y llygoden dros eiriau sydd wedi’u tanlinellu.
Fel ategyn Cysill, mae’n hawdd iawn gosod ategyn Vocab ar eich gwefan (D.S. rhaid gosod eich allwedd API bersonol chi yn lle “EICH_ALLWEDD_API”. Ewch i Cofrestru am allwedd API ar gyfer y cyfarwyddiadau llawn).
- Ychwanegwch y ddau dag
<script>
canlynol at god tudalen eich gwefan:<script type='text/javascript'> var vocabConfig = { apikey : 'EICH_ALLWEDD_API', language : 'cy', start : 'body' }; </script> <script type='text/javascript' language='javascript' src='http://api.techiaith.org/vocab/ui/vocab/vocab.nocache.js'></script>
- Ychwanegwch <div> gyda class=vocab_button unrhyw le o fewn eich tudalen:
<div class="vocab_button"></div>